Mae cyrsiau PAVO yn cael ei ddal ond trwy gyfrwng hyfforddiant ar-lein ar hyn o bryd - edrychwch isod i weld beth sydd ar gael!
Rydym i gyd wedi clywed am dwyll ar-lein a'i effaith. O sgamiau canlyn ar-lein i ddwyn hunaniaeth – mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gael eich twyllo.
Bydd y gweithdy hwn yn eich cyflwyno i ffyrdd y gallwch leihau'r risg o gael eich twyllo. Bydd y gweithdy’n archwilio arferion gorau a strategaethau a fydd yn helpu i ddiogelu eich presenoldeb ar-lein ac yn rhoi cipolwg i chi ar effaith rhannu data.
Sgiliau amddiffyn dyfeisiadau personol, diogelwch e-bost, rheoli cyfrineiriau, arferion pori diogel, a llawer mwy!
Pobl sy'n newydd i ddefnyddio technoleg ac sydd eisiau teimlo'n fwy cyfforddus a diogel.
Unigolion sydd eisiau dysgu mwy am wneud preifatrwydd a diogelwch yn elfennau annatod o'u strategaeth ddigidol.
Lle:
SSwyddfeydd PAVO yn Llandrindod neu ymunwch â ni yn rhithiol o’ch cartref eich hun.
Cliciwch ar y ddolen i archebu eich lle - nodwch fod lleoedd yn bersonol yn gyfyngedig (dyfeisiau ar gael) - https://bit.ly/3wm4zxK