Mae'r Pecyn Cymorth Cynnig Rhagweithiol yma i'ch cefnogi chi i weithredu mwy o’ch gwasanaethau drwy’r Gymraeg.
Yma’ng Nghymru, gall cynhwysiant fod yn rhan fawr o lwyddiant eich mudiad, ac mae cynnig eich gwasanaethau yn Gymraeg yn gam mawr tuag at gyflawni eich addewid i boblogaeth Cymraeg ei hiaith.
Mae’r Cynnig Rhagweithiol yn golygu darparu gwasanaeth yn y Gymraeg he bi rywun orfod ofyn amdano.
Yn ogystal â chael effaith ddiwylliannol byddwch hefyd yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg 2011 sy'n nodi, os ydych chi'n fudiad sy'n derbyn cyllid gan eich awdurdod lleol neu fwrdd iechyd, rydych chi fod i gyflawni neu o leiaf weithio tuag ato Cynnig Rhagweithiol o fewn gwasanaethau eich sefydliadau.
Gallwn gefnogi'ch mudiad gyda'r canlynol:
- Sgwrs am y Cynnig Rhagweithiol a sut mae'n effeithio chi.
Dewch i gael sgwrs gyda Swyddog Datblygu PAVO i ddarganfod mwy am y Cynng Rhagweithol, beth all eich mudiad wneud i'w gyflawni, ac i gael syniad cyffredinol o ble i gychwyn ar eich taith Cynnig Rhagweithiol.
- Hyfforddiant cefnogol ar y Cynnig Rhagweithiol
Mynychwch sesiynau hyfforddi cefnogol swyddog y prosiect i ddadansoddi sut y gall eich mudiad fynd ati i ddechrau gyda'i Gynnig Rhagweithiol. Mae'r hyfforddiant hwn am ddim ac yn fan cychwyn gwych i unrhyw un sydd am ddechrau neu adnewyddu eu dealltwriaeth o'r Cynnig Rhagweithiol.
- Cymorth ar ddatblygu Cynllun Gweithredu Cynnig Rhagweithiol
Trwy gefnogaeth ac arweiniad uniongyrchol gan y swyddog prosiect, gall eich mudiad ddatblygu cynllun gweithredu i’r Cynnig Rhagweithiol. Gall cael cynllun ar gyfer eich dull cam wrth gam sicrhau ei lwyddiant.
- Mynediad at fideos yn esbonio'r Cynnig Rhagweithiol
Gwyliwch fideos a grëwyd gan swyddog y prosiect yn disgrifio cyd-destun y Cynnig Rhagweithiol, yr hyn y mae'n ei olygu i bobl, a'r effaith ddiwylliannol y gall ei chael yma yng Nghymru.
- Mynediad ar-lein at y pecyn deunyddiau
Mae'r Pecyn Deunyddiau Cynnig Gweithredol yn cynnwys Pecyn Gwybodaeth, Llyfr Ymadroddion, Gwiriad Iechyd Sefydliadol sy'n gysylltiol a’r Gymraeg, Cardiau Fflach, Posteri a mwy. Byddwch hefyd yn derbyn cefnogaeth ar sut i ddefnyddio'r deunyddiau rhain o fewn eich mudiad.
- Fideos ar sut i ddefnyddio'r pecyn yn effeithiol
Gwyliwch fideos yn torri i lawr sut i ryddhau potensial y pecyn deunyddiau, a sut y gallwch chi weithredu ei ddefnyddioldeb yn eich gwaith bob dydd.
- Cardiau fflach/llyfryn ymadroddion wedi'i deilwra i'ch mudiad
Gall y prosiect Cynnig Gweithredol helpu i ddatblygu cardiau fflach ac ymadroddion yn Gymraeg i'ch mudiad eu defnyddio. Gall y rhain fod yn gwestiynau, ymadroddion a / neu gyfarchion rheolaidd rydych chi a'ch mudiad yn eu defnyddio bob dydd.
- Mynediad at nifer bach o gyfieithu
Yn dibynnu ar eich sefyllfa, gall y prosiect Cynnig Gweithredol eich cefnogi gydag ychydig bach o gyfieithu Cymraeg. Gall hyn amrywio o boster cyfryngau cymdeithasol i swydd ddisgrifiad neu rôl gwirfoddolwr a allai eich cynorthwyo i ehangu eich sylfaen gynulleidfa.
- Sesiynau ymwybyddiaeth iaith gyda Dysgu Cymraeg
Dewch draw i sesiwn a wnaed mewn cydweithrediad â Dysgu Cymraeg ar Ymwybyddiaeth Iaith sy'n ceisio cynyddu eich ymwybyddiaeth a'ch dealltwriaeth o'r Gymraeg yng Nghymru heddiw, ac i drafod sut y gallwch chi gyfrannu at ei ffyniant.
I wneud dechreuad, neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Lliwedd ar lliwedd.jones@pavo.org.uk neu ffoniwch 01597 822191