Enwebiadau Ymddiriedolwyr PAVO
YMUNWCH!
Ydych chi am wneud gwahaniaeth positif hefo bobl Powys?
Oes gennych chi’r sgiliau a’r profiad i helpu llywodraethu Cyngor Gwirfoddol Sirol Powys?
Mae PAVO yn gwahodd enwebiadau gan unigolion sy’n dymuno sefyll i gael eu hethol i’w Bwrdd Ymddiriedolwyr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar ddydd Iau 7 Tachwedd 2024. Mae’r dogfennau priodol ar gael isod. Os ydych chi angen copiau wedi eu postio atoch, cysylltwch â ni.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw’r 14 Hydref 2024
Rhannwch y wybodaeth hon gydag unrhyw un sydd â diddordeb a bod yn ymddiriedolwr i PAVO. Chwiliwn am enwebeion sydd â sgiliau, gwybodaeth a/neu arbenigedd a fydd yn cryfhau llywodraethiad y sefydliad ymhellach.
Rhaid i enwebiadau gael eu cymeradwyo gan aelod-sefydliad PAVO, ond nid oes angen i enwebeion fod yn aelod / cyfranogwr / buddiolwr y sefydliad hwnnw.
Nid yw ymddiriedolwyr yn cael eu talu, ond ad-delir yr holl gostau sy’n gysylltiedig â’r rôl.
Am fwy o wybodaeth am PAVO ymwelwch â’n gwefan
https://www.pavo.org.uk/cy/
neu cysylltwch ag Angela Owen, PAVO, Plas Dolerw, Y Drenewydd, SY16 2EH 01686 626220
angela.owen@pavo.org.uk.