Os ydych chi'n angerddol am wella iechyd a lles ym Mhowys, mae eich llais yn bwysig. Mae yna lawer o ffyrdd i gymryd rhan a helpu i lunio'r gwasanaethau sy'n cefnogi ein cymunedau.
Ymunwch â Rhwydwaith Ardal
Mae ein Rhwydweithiau Ardal dan arweiniad Cysylltwyr Cymunedol yn cyfarfod bob chwarter ledled Powys. Mae'r cyfarfodydd hyn yn dod ag unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau ynghyd i:
- Trafod materion iechyd a lles lleol allweddol
- Nodi bylchau mewn gwasanaethau
- Archwilio anghenion ariannu
- Cydweithio ar atebion
Dysgu mwy am ein Gwasanaeth Cysylltwyr Cymunedol
Dewch o hyd i fanylion cyfarfodydd sydd ar ddod ar ein Calendr Digwyddiadau
Cadw'r wybodaeth ddiweddaraf trwy ein dilyn ar Facebook

Fforwm Pobl Hŷn Powys
Rhwydwaith o ddinasyddion hŷn (60 oed a hŷn) o bob cwr o Bowys yw Fforwm Pobl Hŷn. Mae'n darparu llwyfan i bobl hŷn rannu eu syniadau a'u barn ar faterion sy'n effeithio ar eu bywydau.
Mae'r fforwm yn helpu i lunio penderfyniadau a wneir gan Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ynghylch sut mae adnoddau'n cael eu defnyddio er budd pobl hŷn ym Mhowys.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: adam.greenow@powys.gov.org
Fforwm Byw'n Dda
O dan arweiniad Cyngor Sir Powys, mae'r Fforwm Byw'n Dda ar gyfer pobl 18–65 oed ym Mhowys sy'n defnyddio, dylunio neu gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r fforwm yn darparu lle i:
- Siarad am yr hyn sy'n gweithio'n dda – a'r hyn sydd ddim
- Nodi'r hyn sydd angen ei newid
- Archwilio sut y gallwn ni helpu pobl ym Mhowys i fyw bywydau da
Bwrdd Dechrau'n Dda Iau
Mae'r Bwrdd Dechrau'n Dda Iau yn grŵp hwyliog lle mae pobl ifanc rhwng 11 a 18 oed yn cwrdd i siarad am unrhyw beth sy'n bwysig i blant a phobl ifanc ym Mhowys
Am ragor o wybodaeth a sgwrs gallwch anfon e-bost at: jswb@powys.gov.uk
Neu llenwch y ffurflen gais yma. Bydd angen caniatâd arnoch os ydych chi o dan 18 oed felly gofynnwch i riant, gofalwr, neu oedolyn dibynadwy arall eich helpu.
