Beth yw Gwasanaeth Cyfeillio Powys?

Cefnoga Gwasanaeth Cyfeillio Powys pobl dros 50 oed sy’n byw ym Mhowys i helpu i gadw eu hannibyniaeth, gwella hyder, datblygu eu rhwydwaith cymdeithasol ac ailgysylltu â gweithgareddau yn y gymuned neu gyda phaned a sgwrs gyfeillgar yn eu cartref eu hunain.

BF_pic_3

Mae cyfeillion yn darparu:

  • Cydymaith i bobl unig, hŷn
  • Cefnogaeth i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol
  • Cyfleoedd i fagu hyder ac hunan-barch

Beth yw manteision cyfeillio?

  • Datblygu rhwydwaith cymdeithasol ehangach
  • Ymgysylltu â’r gymuned leol
  • Mwy o weithgarwch corfforol
  • Gwell iechyd meddwl a lles

Y gwasanaeth rydym yn ei gynnig

  • Cyfeillio wyneb yn wyneb yn eich cartref eich hun neu mewn lleoliad cymunedol
  • Cyfeillio Ffôn
  • Galwadau fideo wythnosol
  • Gohebiaeth llythyr / e-bost
  • Grwpiau cyfeillio digidol ar-lein
  • Cefnogaeth i fynychu grwpiau neu weithgareddau lleol

Ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n elwa o'r gwasanaeth hwn?

Ffoniwch 01597 822 191 am sgwrs anffurfiol neu e-bostiwch pbs@pavo.org.uk

PBS_image