Cludiant Cymunedol

Mae Cludiant Cymunedol (CC) yn bodloni anghenion cymunedau lle nad yw’n bosib diwallu’r anghenion hynny’n foddhaol gan gludiant cyhoeddus a/neu fasnachol.

Mask Group 27

Gall gweithgarwch ym maes CC amrywio o ddarparu cludiant drws i ddrws hygyrch ar gyfer pobl gyda phroblemau symudedd, i helpu cynhwysiant cymdeithasol amrediad eang o bobl fyddai fel arall yn methu cymryd rhan mewn gweithgareddau arferol bywyd dyddiol, addysg a hyfforddiant, a gwaith. Mewn ardaloedd gwledig, gall CC leihau effaith unigedd daearyddol trwy roi gwell mynediad i ganolfannau lleol a rhanbarthol.

 

Mae CC yn rhan hollbwysig o system cludiant integredig sy’n bwydo mewn i ac allan o’r prif goridorau a chyfnewidfeydd cludiant cyhoeddus. Mae nifer o gynlluniau CC llwyddiannus o fewn Powys. Datblygodd y mwyafrif i fodloni anghenion grwpiau difreintiedig yn enwedig pobl hŷn a phobl anabl.

Mae’r cynlluniau yma’n cynnwys:

  • Cynlluniau Galw’r Gyrrwr
  • Cynlluniau Cerdyn Tacsi
  • Cynlluniau Ceir Cymunedol a Gwirfoddol
  • Bysiau Cymunedol (Adran 22)
  • Cynllun Hurio ar gyfer Grwpiau (PAVO)

Dylid cysylltu â’r cynlluniau unigol ar gyfer ffurflenni ymaelodi a gwybodaeth.