Ymaelodi â PAVO
Ymunwch â ni ynghyd â dros 700 o sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol eraill ar draws Powys: i gydweithio ar gyfer Powys well!
Mae aelodaeth YN RHAD AC AM DDIM. Dyma’r Ffurflen Gais.
Manteision bod yn aelod:
- byddwch yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf un – llythyr e-briffio misol ar gyfer aelodau sy’n cynnwys newyddion cyllido, hyfforddiant a digwyddiadau;
- porth cyllido PAVO Open4Community – i allu chwilio eich hunan am gyllid neu i bori cyllidwyr fesul thema;
- gwahoddiadau i ddigwyddiadau a chyfarfodydd - o Gynhadledd Flynyddol PAVO, sesiynau briffio ar bolisïau a mentrau newydd y llywodraeth, i ddigwyddiadau mwy lleol ar gyfleoedd cyllido a phynciau eraill. Bydd PAVO yn eich cysylltu â phobl yn yr un maes gwaith â chi ar lefel leol, sirol, genedlaethol neu ryngwladol; cael dweud eich dweud ar faterion pwysig – a chyfle i gyfrannu at ymgynghoriadau ac i’ch ymatebion gael eu clywed.
- mae PAVO yn rhannu eich llais gyda phrif bartneriaid ym Mhowys, gan gynnwys Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, ac yn genedlaethol trwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru gyda Llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU.
Chwilio am wybodaeth
Felly, bachwch ar y cyfle: ymunwch â ni heddiw
E-bostwich eich ffurflen gais wedi'i chwblhau i: ruth.middleton@pavo.org.uk