Heneiddio'n Dda

Mae’r Bartneriaeth Heneiddio’n Dda (a elwir hefyd yn ‘Bartneriaeth Pobl Hŷn’) yn is-bartneriaeth o’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

csm_Older_people_s_partnership_b0b8efb2c4

Swyddogaeth

Mae’r Bartneriaeth Heneiddio’n Dda yn gyfrifol am fwrw ymlaen â gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gryfhau a thrawsnewid gwasanaethau i bobl hŷn ym Mhowys.

Llesiant

Byddwn yn:

  • Cefnogi pobl hŷn i fod mor egnïol â phosib trwy wirfoddoli, ymarfer corfforol a meddyliol.
  • Annog pobl i gynllunio ar gyfer y dyfodol, a gweithredu er mwyn lleihau nifer a dilyniant cyflyrau sy’n byrhau bywyd megis dementia.
  • Cefnogi amrediad o opsiynau llety a mynediad atynt ar gyfer pobl wrth iddynt heneiddio.

Cymorth Cynnar a Chefnogaeth

  • Byddwn yn defnyddio technoleg er mwyn i bobl hŷn ofalu am eu hunain ac aros yn annibynnol, ac i annog gwell cynhwysiant cymdeithasol.
  • Ar gyfer gofalwyr, byddwn yn parhau i ddatblygu gwasanaethau i fodloni anghenion cyfannol y teulu a chynnig gofal seibiant digonol.
  • Byddwn yn helpu pobl i oresgyn unigrwydd ac unigedd cymdeithasol a bod yn aelod egnïol o’r gymuned

Mynd i’r afael â’r ‘4 Clefyd Mawr’

  • Byddwn yn datblygu gwasanaethau effeithiol i drin a chefnogi pobl sy’n dioddef o bedwar prif achos afiechyd a marwolaeth cynnar ym Mhowys:
    • Canser
    • Clefydau cylchredol
    • Clefydau anadlol
    • Problemau iechyd meddwl
  • Hefyd byddwn yn datblygu cymorth i leihau nifer ac effaith clefydau yn ddiweddarach mewn bywyd.

Gofal Cyd-gysylltiedig

  • Byddwn yn cefnogi timau iechyd a gofal i weithio’n dda gyda phobl hŷn i gael pethau’n iawn y tro cyntaf, ac i atal anghenion rhag gwaethygu.
  • Byddwn yn adolygu gwasanaethau iechyd a gofal presennol ac yn buddsoddi yn yr amgylchfyd iechyd a gofal sy’n diwallu anghenion y dyfodol - sy’n darparu dewis, hygyrchedd a gwasanaethau cyd-gysylltiedig.
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu trigolion.

Aelodaeth

  • Cyngor Sir Powys
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Tîm Iechyd Meddwl Powys
  • PAVO

 

Cynrychiolaeth PAVO/Trydydd Sector

Sharon Healey (Pennaeth Iechyd, Lles a Phartneriaethau PAVO))

Amserlen Cyfarfodydd: bob dau fis.