Mi wnaethoch chi siarad, ac mi wnaethon ni wrando: Cefnogaeth ar gyfer adeiladau cymunedol
Roedd yn ein harolwg diweddar o randaliad yn amlwg faint roedd y prosiect Adeiladau Cymunedol yn cael ei werthfawrogi – a faint y teimlwyd ei golli gan yr ymddiriedolwyr a’r gwirfoddolwyr roedd yn eu cefnogi.
Yr un mor bwysig, dywedodd pobl eu bod yn gweld eisiau’r rhwydwaith – cael lle i gysylltu ag eraill, rhannu syniadau, gofyn cwestiynau a gwybod nad ydych ar eich pen eich hun wrth wynebu heriau.
Cefnogi’r bobl sy’n gyfrifol am ein hadeiladau cymunedol
Mae adeiladau cymunedol yn galon cymaint o’n cymunedau. Maen nhw’n lleoedd lle mae pobl yn dod at ei gilydd, lle caiff gwasanaethau eu darparu ac y caiff cysylltiadau eu meithrin.
Rydan ni’n gwybod fod rhedeg adeilad cymunedol yn gofyn am amser, egni ac ymroddiad. Dyna pam rydym am sicrhau bod gan ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr y cyngor, cymorth a chysylltiadau sydd eu hangen arnyn nhw.
Mewn ymateb i’ch adborth, rydym yn falch bod mwy o gymorth ar gael bellach i ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr sy’n ymwneud â rhedeg adeiladau cymunedol.
Rydym hefyd yn dod â’n fforwm trafod ar-lein yn ôl – cyfle i gysylltu ag eraill mewn rolau tebyg, rhannu profiadau, cyfnewid syniadau, gofyn cwestiynau a dysgu oddi wrth ein gilydd.
Cynhelir ein cyfarfod ar-lein cyntaf ar 7fed Medi, rhwng 6yh a 7.30yh.
Os ydych wedi bod yn ymwneud â rhedeg adeilad cymunedol ers blynyddoedd neu’n newydd sbon i’r rôl, bydd croeso cynnes i chi. Byddem wrth ein bodd basech yn ymuno â ni ac yn helpu i lunio’r fforwm wrth iddo ddatblygu.
