Os ydych chi’n aelod o bwyllgor neu’n ymddiriedolwr adeilad cymunedol, gallwn gynnig cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol i’ch helpu i deimlo’n hyderus yn eich rôl.
Rydym eisoes wedi helpu adeiladau cymunedol ledled Powys gyda:
- Chytundebau llogi
- Asesiadau risg
- Pholisïau a gweithdrefnau
- Hyfforddiant a datblygu
- Grwpiau trafod rhithwir
- Ymholiadau llywodraethu
- Monitro ac arferion da


Y buddsoddiad mwyaf mewn seilwaith cymunedol ers bron i 20 mlynedd
Yn 2024/25, cafodd cymunedau Powys fudd o fuddsoddiad mwyaf y sir mewn seilwaith ar lawr gwlad ers bron i 20 mlynedd, gyda grant gwerth £1.65 miliwn – y mwyaf erioed – yn cael ei reoli gan PAVO rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2024.
Roedd y cyllid yn cefnogi gwelliannau i adeiladau cymunedol, toiledau cyhoeddus a chyfleusterau chwaraeon ledled Powys, gan ganolbwyntio ar wneud cyfleusterau lleol yn fwy cynaliadwy ac yn fwy effeithlon o ran ynni. Roedd y prosiectau’n cynnwys gosod paneli solar, atgyweirio toeau a mentrau trafnidiaeth gynaliadwy, gan helpu i sicrhau bod cyfleusterau cymunedol yn addas ar gyfer y dyfodol.
Darllenwch y sylw yn y wasg: Powys County Times Brecon & Radnor Express Shropshire Star
Ymunwch â’n grŵp trafod ar-lein
Rydym yn cynnal grŵp trafod ar gyfer adeiladau cymunedol bob chwe wythnos drwy Google Meet.
Mae’n gyfle i rannu profiadau, gofyn cwestiynau, cyfnewid syniadau a dysgu gan eraill sy’n ymwneud â rhedeg adeiladau cymunedol.
Cael cymorth
P’un a oes gennych gwestiwn cyffredinol am reoli eich adeilad neu angen cyngor sy’n ymwneud â’ch rôl fel aelod o bwyllgor neu ymddiriedolwr, rydym yma i helpu.
Rydym hefyd yn cynnig cymorth gyda chyllid a gallwn eich helpu i chwilio am grantiau a chyfleoedd ariannu eraill.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Ffoniwch ni: 01597 822 191 Anfonwch e-bost atom: info@pavo.org.uk
Archwiliwch adeiladau cymunedol ledled Powys
Eisiau dod o hyd i adeilad cymunedol yn agos atoch chi?
Archwiliwch y map i ddarganfod adeiladau cymunedol ledled Powys. Symudwch eich cyrchwr dros unrhyw un o’r pinnau i weld mwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion am y lleoliad a phwy i gysylltu â nhw os hoffech wneud archeb.
Ydych chi’n rheoli adeilad cymunedol sydd wedi’i restru ar ein map? Os yw unrhyw un o’r wybodaeth yn eich rhestr wedi newid, defnyddiwch y ddolen hon i ddiweddaru eich manylion.
