Mae Ton 3 Baromedr Cymru yn fyw: dyddiad cau wedi’i ymestyn tan 29 Mai.

Mae Ton 3 Baromedr Cymru yn fyw: dyddiad cau wedi’i ymestyn tan 29 Mai.

https://nbsntu.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_8Aqi7io1jUWX7mu

Rhannwch yn eang os gwelwch yn dda!

Baromedr Cymru yw’r arolwg chwarterol dwyieithog ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru, wedi’i gyflwyno gan CGGC ac Arsyllfa Data a Mewnwelediadau’r VCSE ym Mhrifysgol Nottingham Trent.

Mewn Ffocws: Perthnasoedd â’r llywodraeth a’r cyd-destun gwleidyddol newidiol yng Nghymru

Yn Nhon 3, rydym am ddeall perthnasoedd mudiadau â gwahanol lefelau llywodraeth yng Nghymru. Rydym eisiau gwybod eich barn, eich profiadau, eich blaenoriaethau, eich disgwyliadau a’ch pryderon ar gyfer y 12 mis nesaf, gyda phwyslais penodol ar etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026.

Rydym hefyd yn creu llinell sylfaen ailadroddadwy i asesu dros amser a yw mudiadau gwirfoddol o’r farn bod gwahanol lefelau llywodraeth yn ymddwyn mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu egwyddorion y Cyfamod Cymdeithas Sifil newydd.

  • Eich perthynas â llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, cyrff rhanbarthol, ac awdurdodau lleol yn ymarferol.
  • I ba raddau y mae’r perthnasoedd hyn yn adlewyrchu egwyddorion y Cyfamod.
  • Blaenoriaethau, disgwyliadau a phryderon eich mudiad ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Pam mae eich mewnbwn yn bwysig

Bydd eich cyfraniad chi yn helpu i greu darlun mwy eglur o sut mae’r sector yng Nghymru yn perfformio, gan lywio trafodaethau cenedlaethol ar gyllid, buddsoddiad a chefnogaeth i fudiadau gwirfoddol o bob maint.

Os byddwch chi’n cymryd rhan, byddwch chi’n cael:

  • Adroddiad Cipolwg byr i’ch helpu chi i ddeall eich profiad o’i gymharu â’r darlun ehangach
  • Mynediad at ddangosfwrdd dwyieithog sy’n eich helpu i wneud synnwyr o’r canfyddiadau
  • Gwahoddiad i weminar am ddim a fydd yn edrych ar y canfyddiadau a’r goblygiadau ymarferol

Mae Pob Ateb yn Cyfri 

Waeth a yw eich mudiad yn fawr neu’n fach, bydd eich llais yn helpu i adeiladu dyfodol cryfach i’r sector gwirfoddol yng Nghymru sy’n canolbwyntio mwy ar dystiolaeth.

Cyflwynwch eich atebion erbyn dydd Gwener 29 Mai i sicrhau bod llais eich mudiad yn cael ei glywed.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn VCSEOObservatory@ntu.ac.uk neu polisi@wcva.cymru