Cyngres Hawliau Dynol Cymru
Bydd y Gyngres yn dwyn ynghyd unigolion sydd â diddordeb mewn hawliau dynol, mudiadau’r sector gwirfoddol, pobl academaidd, a mudiadau cymdeithas sifil yng Nghymru.
Ymunwch â ni i:
- Gyd-greu Bil Hawliau Dynol drafft i Gymru – sut mae mudiadau sector gwirfoddol, pobl academaidd a chymdeithas sifil eisiau iddo edrych a beth ddylai gynnwys
- Trafod a dysgu sut i roi hawliau dynol ar waith – gan wneud hawliau yn realiti i bawb yng Nghymru.
Bydd cyfranogwyr yn:
- Clywed gan arbenigwyr o Gymru a’r DU ar ystod o themâu Hawliau Dynol.
- Trafod y cynnydd tuag at wireddu’r hawliau dynol sydd wedi’u sicrhau i bawb yng Nghymru fel y nodir mewn cytuniadau hawliau dynol rhyngwladol.
- Trafod beth ddylai fod mewn deddfwriaeth ddatganoledig i ymgorffori hawliau dynol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru mewn perthynas â gwahanol gytuniadau a meysydd hawliau.
- Deall ystod o wahanol adnoddau a dulliau i roi cyfraith hawliau dynol ar waith a gwneud hawliau yn realiti i bawb yng Nghymru.
- Trafod yr hyn sydd ei angen i symud o ddeddfwriaeth i ddulliau gweithredu hawliau dynol.
- Trafod sut i roi hawliau dynol ar waith bob dydd, ym mhob rhan o Gymru.
Ble: Stadiwm Dinas Caerdydd, Lecwydd, Caerdydd
Dyddiad: 16 Medi 2026
Amser: 9.30am – 4pm
Archebwch eich lle yma: https://luma.com/sb6jjf5e
Sut i gofrestru
Dilynwch y ddolen uchod i gofrestru.
Wrth gofrestru, nodwch eich iaith ddewisol ac unrhyw ofynion mynediad
Os na allwch gofrestru ar-lein neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch ConsortiwmHawliauDynolCymru@wcva.cymru
neu cysylltwch â CGGC a gofyn am Ele Hicks.
Dyddiad cau i gofrestru: 2 Medi
