Gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol wedi’i ymestyn yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus

Mae ein gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol, a lansiwyd fel cynllun peilot y llynedd, bellach ar gael i bobl rhwng 18 a 75 oed sy’n byw ym Mhowys. Mae’r ehangiad hwn yn golygu y gall hyd yn oed mwy o bobl gael mynediad at gymorth personol i wella eu hiechyd, eu lles a’u hansawdd bywyd.

Mae ein gwasanaeth presgripsiynu cymdeithasol yn cysylltu pobl â chyflwr iechyd sy’n effeithio ar gyhyrau neu gymalau, y galon neu gylchrediad y gwaed, cyflyrau anadlol, hormonau neu fetaboledd, neu iechyd meddwl â gweithgareddau, grwpiau a gwasanaethau lleol a all gefnogi eu lles. Yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar anghenion meddygol, mae’r gwasanaeth yn mabwysiadu dull cyfannol, gan helpu pobl i ddod o hyd i gymorth ymarferol a chymunedol sy’n bwysig iddynt.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun peilot, rydym wrth ein bodd yn gallu ymestyn y gwasanaeth i ystod oedran ehangach, gan sicrhau y gall mwy o bobl ledled Powys elwa ar y cyfleoedd, y cysylltiadau a’r cymorth sydd ar gael yn eu cymunedau lleol.

Dysgwch fwy: https://www.pavo.org.uk/cy/help-for-people/presgripsiynucymdeithasol/