Llofnodwch Ein Siarter Fwyd Heddiw

Llofnodwch Ein Siarter Fwyd Heddiw

Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy Powys yw Bywd Powys Food , sy’n gweithio i greu newid mewn systemau bwyd. Ein gweledigaeth yw “Bwyd da i BOWYS! Lle mae bwyd lleol, cynaliadwy ac iach yn cefnogi cymunedau, ei phobl a’r amgylchedd.

 

Dewch yn rhan o gymuned lewyrchus sydd wedi ymrwymo i arferion bwyd cynaliadwy. Drwy gofrestru ar gyfer ein siarter bwyd rydych yn ymrwymo i roi cynnig ar un neu fwy o’r canlynol.

Tyfwch Eich Hun… Llysiau, ffrwythau a pherlysiau gartref, naill ai yn eich gardd neu hyd yn oed eich silff ffenestr os nad oes gennych le awyr agored

Coginiwch Eich Hun… Prydau ffres, maethlon, blasus i chi, eich teulu a’ch ffrindiau trwy goginio o’r dechrau gan ddefnyddio cynhwysion maethlon o ffynonellau lleol

Cefnogi Tyfwyr a Chynhyrchwyr Lleol… Prynwch gynnyrch lleol gan dyfwyr a chynhyrchwyr lleol, siopau annibynnol, siopau fferm, marchnadoedd ffermwyr, hamperi bwyd a diod lleol ar-lein a chefnogwch ein busnesau lleol

Cymerwch Ran Mewn Digwyddiadau Bwyd Cymunedol… Ewch i’ch sioeau pentref lleol, gwyliau bwyd, digwyddiadau bwyd cymunedol lleol, clybiau coginio a mwy a mwynhewch nhw gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.

Lleihau Pecynnu Bwyd a Gwastraff trwy… Ddefnyddio cynwysyddion y gellir eu hail-lenwi, prynu bwyd a diodydd sy’n defnyddio pecynnau ailgylchadwy neu fwyd rhydd heb unrhyw becynnu, defnyddio’ch bagiau eich hun yn hytrach na bagiau plastig untro, rhewi bwyd i leihau gwastraff bwyd