Arolwg Diogelu yng Nghymru

Rydym yn ysgrifennu atoch i’ch gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg sy’n canolbwyntio ar y canlynol:
- Argymhelliad 13 adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol ynghylch adrodd mandadol
- Y Cod Ymarfer Diogelu
Yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol
Argymhellodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol y dylid gosod dyletswydd i adrodd am achosion o gam-drin plant yn rhywiol ar unigolion yn hytrach nag ar sefydliadau.
Gwnaeth ein hymgynghoriad cyntaf, a gynhaliwyd yn rhan o ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu o dan y Bil Gofal Cymdeithasol, roi inni ystod eang o safbwyntiau gan randdeiliaid, ond ni chafwyd consensws clir ynglŷn â’r ffordd ymlaen. O ganlyniad, mae angen cynnal gwaith archwilio pellach.
Yn rhan o’r gwaith sy’n mynd rhagddo gennym, mae angen inni sefydlu’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd o ran ein dyletswyddau presennol i adrodd am blant ac oedolion, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ‘bartneriaid perthnasol’ yr awdurdodau lleol.
Mae’r arolwg yn ystyried goblygiadau gosod dyletswyddau adrodd mandadol ar unigolion neu roi ar waith fesurau amgen ar eu cyfer.
Y Cod Ymarfer Diogelu
Rydym hefyd yn ceisio barn ynglŷn â’r Cod Ymarfer Diogelu.
Mae’r Cod Ymarfer Diogelu yn ganllawiau anstatudol ar gyfer yr holl unigolion, grwpiau a sefydliadau hynny sy’n cynnig gweithgareddau neu wasanaethau i blant ac oedolion yng Nghymru. Mae’r Cod Ymarfer Diogelu yn amlinellu disgwyliadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â threfniadau diogelu.
Gall fod yn ofynnol neu beidio i’r unigolion, y grwpiau a’r sefydliadau hyn gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru neu gorff rheoleiddio arall ac ni fyddent yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd sefydliadol i adrodd sy’n gymwys i wasanaethau cyhoeddus fel awdurdodau lleol, byrddau iechyd a’r heddlu. Er enghraifft, gallai hyn fod yn wir yn achos rhai clybiau chwaraeon, clybiau ar ôl ysgol, gweithgareddau crefyddol ac ati.
Rydym wrthi’n adolygu’r Cod a hoffem gasglu eich barn i ategu’r gwaith hwn.