Cyfle i Grwpiau Cymunedol gydag Archif Darlledu Cymru

📣 Galwad i Grwpiau Cymunedol yn Wrecsam, Rhuthun a’r Drenewydd! Darganfyddwch Archif Ddarlledu Cymru – Eich Straeon, Eich Hanes, Eich Llais.
Rydym yn gwahodd grwpiau cymunedol yn ardal Wrecsam, Rhuthun a’r Drenewydd i archwilio Archif Ddarlledu Cymru – archif gyntaf y DU sy’n cynnwys 100 mlynedd o ddarlledu gan ITV Cymru, S4C a BBC Cymru.
Drwy weithdai creadigol, sgyrsiau a sesiynau wedi’u curadu yn eich Cornel Clip lleol, gallwch wylio, adlewyrchu ac ymateb i’r straeon a’r digwyddiadau sydd wedi siapio Cymru. Drwy sesiynau galw heibio neu sesiynau dwys, gallwch:
· Gwylio a Darganfod drwy sesiynau wedi’u curadu
· Galw Heibio neu Archwilio’n Ddwfn ar eich cyflymder eich hun
· Trafod ac Adlewyrchu ar y straeon a’r lleisiau a ddarganfyddir yn yr archif
· Creu ac Ymateb drwy weithdai creadigol wedi’u hwyluso i ysbrydoli ac adeiladu cysylltiadau

Rydym yn croesawu cyfranogiad gan grwpiau amlddiwylliannol, cyfranogwyr ag anghenion mynediad, a’r rheiny sydd ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth lawn mewn lleoedd diwylliannol a threftadaeth.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch drwy e-bost: Natasha.borton@llyfrgell.cymru