Swyddog Cymorth Gweithrediadau
Lleoliad: Swyddfeydd PAVO Y Drenewydd, Powys.
Oriau: 21 awr dros 3 diwrnod yr wythnos (Tymor penodol hyd at 31 Mawrth 2027)
Cyflog: £19,885 (£33,143 pro rata) y flwyddyn (pensiwn cyfraniad cyflogwr ychwanegol o 6%)
Bydd y swydd newydd hon yn cynyddu capasiti ac yn darparu cefnogaeth ar gyfer gwahanol
agweddau ar swyddogaethau’r adran, gan gynnwys cydymffurfiaeth, arferion cyflogaeth (AD) a
sicrhau ansawdd.
Wedi’i leoli o fewn ein Tîm Gweinyddu, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r Pennaeth
Gweithrediadau trwy gyfrannu at sicrhau bod ein mudiad yn bodloni ei ofynion cyfreithiol a
rheoleiddiol. Rydym yn chwilio am rywun sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth o iechyd a
diogelwch, fframweithiau polisi, arferion cyflogaeth, sicrhau ansawdd a monitro perfformiad.
Bydd y swydd yn cynnwys diweddaru polisïau wrth i ddeddfwriaeth newid, casglu data, cynnal
archwiliadau mewnol a chynhyrchu adroddiadau.
Os ydych chi’n frwdfrydig am lywodraethu ac yn teimlo bod gennych chi’r sgiliau a’r galluoedd
sydd eu hangen i wneud y gwaith yn dda, hoffem glywed gennych chi.
I wneud cais ewch i’n gwefan www.pavo.org.uk / ac ati
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 12 canol dydd ddydd Llun 8fed Mehefin 2026
Cynhelir cyfweliadau yn Y Drenewydd ddydd Mercher 10fed Mehefin 2026
Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth PAVO
Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
