Enwebiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2025

Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), yn ôl—gan dynnu sylw at waith anhygoel elusennau, grwpiau cymunedol, sefydliadau dielw, a gwirfoddolwyr ledled Cymru.

Dyma’ch cyfle i gydnabod a dathlu’r rhai sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau – boed yn grŵp llawr gwlad, yn wirfoddolwr ysbrydoledig, neu’n brosiect sy’n newid bywydau. 

Mae enwebiadau ar agor nawr ac yn cau ar 30 Mehefin 2025. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod seremoni arbennig yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar 16 Hydref 2025. 

Enwebwch rywun heddiw a helpwch ni i arddangos y gorau oll o Gymru.

Darganfyddwch fwy a chyflwynwch eich enwebiad yma