Rhaglen Sgrinio’r Fron y GIG Cymru

Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron yw Hydref
Gall sgrinio’r fron arbed bywydau
Canser y fron yw’r math mwyaf cyffredin o ganser yn y DU. Gall sgrinio’r fron achub bywydau trwy ganfod canser y fron yn gynnar, pan fo canserau’n rhy fach i’w gweld neu eu teimlo. Bydd canfod a thrin canser y fron yn gynnar roi’r cyfle gorau i chi oroesi.
Os ydych rhwng 50 a 70 oed, ac wedi’ch cofrestru fel merch gyda’ch practis meddyg teulu, byddwch yn cael eich gwahodd am belydr-X o’r fron y GIG bob tair blynedd. Byddwch yn derbyn eich gwahoddiad cyntaf cyn eich pen-blwydd yn 53 oed. Os ydych yn 70 oed neu’n hŷn, gallwch ofyn am apwyntiad drwy gysylltu â’ch canolfan Bron Brawf Cymru agosaf.
I gael rhagor o wybodaeth am sgrinio’r fron y GIG Cymru, gan gynnwys deunyddiau Hawdd eu Deall a Sain, ewch i:
http://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/sgrinio/bron-brawf-cymru/