Niwrowahaniaeth Cymru Sesiwn Cyngor i Rhithiol Rhieni a Gofalwyr (Mehefin)

Deall Masgio
Karen Mills, AP Cymru
Dydd Iau, 26 Mehefin 2025, 10:00am – 12:00pm
Y Sesiwn
Gan ddefnyddio profiadau bywyd, ymchwil cyfredol ac enghreifftiau o’r byd go iawn, bydd y sesiwn yn dwysáu eich dealltwriaeth o’r pwysau a’r cyfyngiadau mae pobl ifanc niwrowahanol yn eu hwynebu wrth orfod cydymffurfio â’r norm niwronodweddiadol a chymdeithasol. Fel rhieni a gofalwyr fe roddir adnoddau a thechnegau hawdd i’w gweithredu ac sy’n effeithiol i chi – gan eich helpu chi i greu amgylchedd sydd hyd yn oed yn fwy cefnogol, empathig a chynhwysol ar gyfer pob niwroteip. Bydd y sesiwn hefyd yn rhoi’r cyfle i chi i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi i’n harbenigwyr Niwrowahaniaeth, yn arbennig ar yr heriau unigryw rydych yn eu hwynebu.
Y Cyflwynwyr
Fel unigolyn niwrowahanol, a mam i ddau oedolyn ifanc niwrowahanol, mae Karen yn deall yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw gyda llywio byd sydd wedi ei ddylunio ar gyfer y niwronodweddiadol. Gan ddefnyddio ei phrofiadau personol a mewnwelediadau proffesiynol, mae Karen yn galluogi cynulleidfaoedd i groesawu prydferthwch meddyliau amrywiol a chydnabod grym trawsnewidiol cynhwysiant.
I gadw eich lle yn rhad ac am ddim, defnyddiwch y ddolen hon:
https://events.teams.microsoft.com/event/2ca70e09-3b37-453f-b605-30a8b47e3e70@6850a7f1-4cc1-4482-a1c1-79439f679966
(Sylwer: mae’r sesiwn hon i rieni a gofalwyr yn unig)