Llais arolwg cenedlaeth Yr Iechyd a Gofal Cymdeithasol A Garem

Yr Iechyd a Gofal Cymdeithasol A Garem

Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dan bwysau ac mae pobl ledled Cymru yn teimlo’r effaith.

Dyma’ch cyfle i fod yn rhan o sgwrs genedlaethol am eich hawliau, disgwyliadau a chyfrifoldebau.

Rydym yn aml yn clywed nad yw llawer o bobl yn gwybodeu hawliau, beth i’w ddisgwyl neu’r rhan y gallant ei chwarae yn eu gofal eu hunain.

Mae Llais yn arwain sgwrs genedlaethol i newid hynny.

Rydym eisiau clywed eich profiadau – da a drwg – a deallyr hyn yr ydych ei eisiau gan eich gwasanaethau iechyda gofal cymdeithasol.

Bydd eich llais yn helpu i adeiladu system decach lle gall pawb siarad drostynt eu hunain, deall sut i gadw’n iach, a gwybod pryd a ble i gael y cymorth a’r gefnogaeth gywir.

Gyda’n gilydd, byddwn yn llunio dyfodol lle gallwn ni i gyd gael yr iechyd a’r gofal cymdeithasol a garem.

Mae eich llais yn bwysig – peidiwch ag oedi, a chwblhewch ein harolwg heddiw

Darganfyddwch mwy:

· llaiscymru.org/rydymeisiau

· wewant@llaiscymru.org