Helpwch i lunio dyfodol gwirfoddoli ym maes archaeoleg a threftadaeth yng Nghymru
Pwrpas
Mae’r holiadur hwn yn cael ei rannu â Chynghorau Gwirfoddol Sirol fel rhan o Archaeoleg wedi’i Phweru gan Bobl, prosiect Cymru gyfan dan arweiniad Heneb ac sy’n cael ei gefnogi drwy Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru gan CGGC.
Mae’r prosiect yn archwilio sut mae gwirfoddoli ym maes archaeoleg a threftadaeth yn gweithio ledled Cymru ar hyn o bryd. Y nod yw cryfhau cydweithio, gwella mynediad a sicrhau bod systemau presennol yn cael eu defnyddio’n well yn hytrach na’u dyblygu.
Rydym yn awyddus i ddefnyddio eich gwybodaeth a’ch profiad lleol i ddeall:
• Pa mor weladwy yw gwirfoddoli ym maes archaeoleg a threftadaeth yn eich ardal
• Pa mor hygyrch yw’r cyfleoedd hynny yn ymarferol
• Pa gymorth, rhwydweithiau neu fforymau sy’n bodoli ar hyn o bryd
• Sut mae grwpiau archaeoleg a threftadaeth yn ymgysylltu â seilwaith gwirfoddoli lleol
Bydd eich ymatebion yn cefnogi dysgu a chynllunio. Nid asesiad o sefydliadau unigol mo hwn ac nid oes atebion cywir nac anghywir.
Cymraeg: https://forms.gle/
