Helpwch i lunio Llawlyfr Cynhwysiant Digidol Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd rydym yn cynnal cyfres o sesiynau darganfod a sesiynau cydweithio i archwilio datblygiad llawlyfr cynhwysiant digidol. Mae llawlyfr yn troi egwyddorion yn ymarfer drwy roi canllawiau clir, offer ac enghreifftiau i bobl y gallant eu defnyddio yn eu gwaith o ddydd i ddydd.

Sesiynau Darganfod sydd ar ddod dros Microsoft Teams

Mae pobl wrth wraidd y Llawlyfr Cynhwysiant Digidol. Rydym yn gwahodd staff a gwirfoddolwyr, partneriaid a phobl â phrofiad personol i rannu’r rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu, beth sy’n gweithio iddyn nhw a’u syniadau, fel bod y canllawiau a’r offer yn adlewyrchu anghenion go iawn ac yn cefnogi iechyd a gofal sy’n gynhwysol yn ddigidol.

Gallwch fynychu cynifer o sesiynau ag y dymunwch, gyda phob un yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwn gyda’n gilydd.

  1. Deall yr Angen

Dydd Mawrth 20 Hydref, 10:30-12:00 neu ddydd Iau 5 Tachwedd

  1. Archwilio’r hyn sy’n gweithio

Dydd Iau 29 Hydref, 10:00-11:30 neu Dydd Mawrth 10 Tachwedd 13:00-14:00

  1. Llunio’r Llawlyfr

Dydd Mawrth 3 Tachwedd, 11:00-12:30 neu Dydd Iau 12 Tachwedd 13:00-14:30

Cofrestrwch eich diddordeb.

Grwpiau neu fforymau cymunedol

Byddem wrth ein bodd yn dod draw i glywed eich profiadau o gynhwysiant digidol mewn iechyd a gofal yn ogystal â’ch syniadau i helpu i lunio’r Llawlyfr Cynhwysiant Digidol.

Trafodaeth un i un

Os byddai’n well gennych drafodaeth un i un, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, gellir trefnu hyn.

Cysylltwch â ni: Delyth Williams, Rheolwr Cynhwysiant Digidol

Delyth.williams5@wales.nhs.uk neu ffoniwch 02920 500500