Mynd i Sioe Frenhinol Cymru wythnos nesaf?
Os ydych chi’n bwriadu mynd i’r Sioe Fawr, gobeithiwn y cewch wythnos wych yn mwynhau popeth sydd gan y Sioe i’w gynnig.
Ac yno, fe welwch ddigonedd o gyfleoedd i gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud ag iechyd a llesiant.
Dyma lle cewch ddod o hyd i ni drwy gydol yr wythnos:
Ymwelwch â phrosiect Ffit i Ffermio
Rydym yn ymuno â’n partneriaid ar stondin y prosiect Ffit i Ffermio, sydd wedi ennill gwobrau, yn ei leoliad arferol yn yr Ardal Iechyd a Llesiant ar falconi Neuadd y Defaid 1.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio os hoffech drafod eich iechyd a’ch lles, neu gwybodaeth, cyngor a chymorth gan y tîm. Mae’r fenter hon – partneriaeth rhwng PAVO, Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – yn dod â adolygiadau clinigol a gwiriadau llesiant am ddim yn uniongyrchol i farchnadoedd da byw a digwyddiadau amaethyddol mawr drwy gydol y flwyddyn.
Rhannwch eich profiadau o heneiddio yng nghefn gwlad Cymru
Ddydd Mercher 22 Gorffennaf, rhwng 2yp a 3yp, bydd tîm Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ymweld â phrosiect Ffit i Ffermio.
Maent yn cynnal ymchwil i brofiadau pobl o heneiddio mewn ardaloedd gwledig ac yn awyddus iawn i glywed eich barn. Gallwch siarad â’r tîm am:
- Yr hyn rydych yn ei fwynhau fwyaf am fywyd gwledig
- Yr heriau rydych yn eu hwynebu
- Y newidiadau a fyddai’n gwneud y gwahaniaeth cadarnhaol mwyaf i bobl hŷn sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru
Dysgwch fwy am gymorth canser ym Mhowys
Gallwch hefyd ymweld â stondin Macmillan (290, Avenue C) i ddysgu mwy am raglen Gwella’r Daith Canser ym Mhowys.
Bydd ein Cysylltydd Cymunedol Gwella’r Daith Canser ym Mhowys wrth y stondin ddydd Mawrth 21 Gorffennaf a dydd Iau 23 Gorffennaf, a bydd yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau ac i gael sgwrs gyfeillgar.
Mwynhewch eich amser yn Sioe Frenhinol Cymru, ac os ydych yn pasio heibio, dewch draw i ddweud helo. Rydym yn eich annog i wneud y mwyaf o’r cymorth, y wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael drwy gydol yr wythnos.
