Grant Adfer Mawndir.

Lansiwyd y grant cystadleuol hwn gan y Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd ar 15/10/25 a bydd yn agored tan 14/1/2026.
- Mae rownd newydd Grant Adfer Mawndir wedi agor ar 15/10/2025 ac yn cau am ganol nos 14/1/2026.
- Mae cronfa gwerth oddeutu £700,000 ar gael i ddosbarthu grantiau £10K-£250K i unigolion a sefydliadau adfer mawndir.
- Dyma ail rownd y Grant Adfer Mawndir sy’n cyfuno pwrpas y grantiau Datblygu a Chyflawni blaenorol. Bu’r ddwy ffurf o grant yn llwyddiannus ond mae’r grant newydd yn cynnig hyblygrwydd i’r partneriaid sydd am symud yn syth o’r cyfnod datblygu cynlluniau i gyflawni’r adfer ar y tir.
- Rhaid cwblhau prosiectau llwyddiannus erbyn 31/3/2027.
- Ceir yr holl fanylion a mynediad i’r broses ymgeisio drwy dudalen we Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd.
- I esbonio’r broses ymgeisio, cynhelir gweminarau ar Teams ar 7/11/2025. (10yb-11yb Saesneg a 11:30yb-12:30yp Cymraeg) gyda chofrestru yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
- Uwchlwythir recordiad o’r gweminarau er mwyn cyfeirio nôl atynt.
- Ariennir y grantiau gan CNC / y RhWGF sy’n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru.
- Mae gan y Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd CNC rôl strategol yn ehangu adfer mawndir Cymru gyda phartneriaid.
- Y Cyhoeddiad Grant Adfer Mawndir.
Dylid cyfeirio pob ymholiad am y grant a’r broses ymgeisio at grants.enquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â mawndir yn benodol, dylid danfon at NPAP@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.