Dysgwch fwy am gynlluniau iechyd a lles ar gyfer Gogledd Powys
Ydych chi eisiau gwybod mwy am gynlluniau ar gyfer yr Hyb Iechyd a Lles yn y Drenewydd neu gael gwybod am ddatblygiadau ysbytai ar draws y ffin yn yr Amwythig a Telford?
Bydd tîm Rhaglen Lles Gogledd Powys yn Canolfan Hamdden Maldwyn, Lôn y Blanhigfa, Y Drenewydd SY16 1LH ddydd Llun 6 Gorffennaf o 16:00 -18:00.
Gallwch ddysgu mwy am y cynlluniau ar gyfer hyb y Drenewydd yn www.powyswellbeing.wales ond i grynhoi, mae’r tîm yn edrych i ddarparu, o fewn yr hyb, cartref newydd i’r llyfrgell gyhoeddus, ehangu gwasanaeth Deintyddol Cymunedol y GIG, canolfannau newydd ar gyfer y Ganolfan Deulu Integredig, gwasanaethau Iechyd Meddwl, Gwasanaethau Plant y GIG, canolfan hyfforddi yn ogystal â mannau lles.
Beth am ddod draw am sgwrs i gael gwybod mwy?
