Gwella gyda’n Gilydd- Eich Barn ar Wasanaethau Cymunedol Iechyd Corfforol a Meddwl Oedolion

Mae Gwella Gyda’n Gilydd yn ymwneud â gweithio gyda chi i lunio dyfodol gwasanaethau iechyd diogel, o ansawdd uchel ym Mhowys. Yn ystod pythefnos cyntaf mis Gorffennaf byddwn yn cynnal pum gweithdy cyhoeddus yn edrych ar Wasanaethau Cymunedol Iechyd Corfforol a Meddyliol Oedolion a byddem yn hoffi’n fawr iawn i gymysgedd da o bobl fynychu a rhannu eu barn. Bydd y gweithdai prynhawn yn para tua 2 awr ac yn digwydd yn:
Y Trallwng, Y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais.
Rydyn ni wrthi’n cadarnhau dyddiadau a lleoliadau. Os hoffech chi gymryd rhan, cwblhewch y ffurflen fer hon https://shorturl.at/c9V5E
a rhannwch gyfeiriad e-bost a rhif ffôn/symudol fel y gallwn ni gadw mewn cysylltiad. Diolch. Yn dilyn y gweithdai bydd sesiwn galw heibio lle gall unrhyw un ddod heibio a rhannu eu barn.
Gallwch ddysgu mwy am yr ymgysylltu rydyn ni wedi’i wneud hyd yn hyn a’n Rhaglen Gwella Gyda’n Gilydd ar ein gwefan ymgysylltu Dweud Eich Dweud. https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/
Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth newyddion am ddim a derbyn gwybodaeth am gyfleoedd ymgysylltu yn y dyfodol yn uniongyrchol i’ch mewnflwch. Ewch i: https://biap.gig.cymru/newyddion-cofrestru