Sesiwn Gwybodaeth Ar-lein Arthritis UK Cymru 25 Chwefror
Gweithgaredd Corfforol ac Arthritis – Arthritis UK Cymru
SESIWN WYBODAETH: Archwiliwch y rhwystrau i weithgarwch corfforol, a ffyrdd o fod yn fwy actif.
Gall cadw’n heini gydag arthritis fod yn heriol, ond gall helpu i leihau poen, cryfhau cyhyrau, cynnal y cymalau, lleihau anystwythder, gwella cydbwysedd, hybu lefelau egni, rheoli pwysau, a gwella’ch hwyliau.
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio’r rhwystrau sy’n eich atal rhag cynyddu eich gweithgarwch, a helpu i nodi ffyrdd syml o fod yn fwy actif.
Dydd Mercher 25 Chwefor 2026
Ar-lein drwy Teams 11.00yb i 12.00yp
Bydd cyfle i ofyn cwestiynau. Mae croeso i bawb!
Cofrestrwch ar Eventbrite
Mae’r ystafell yn agor am 10.50yb, mae’r cyflwyniad yn dechrau am hanner dydd. Byddwch yn brydlon os gwelwch yn dda.
Mae ein sesiynau gwybodaeth ar-lein ar gyfer oedolion ag arthritis, cyflyrau cyhyrysgerbydol (MSK) neu gyflyrau cysylltiedig e.e. ffibromyalgia, lwpws, gowt. Hefyd, ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr sy’n cefnogi unigolion sy’n byw gydag arthritis. Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am reoli arthritis a chyflyrau cysylltiedig, clywed gan siaradwyr gwadd a darganfod mwy am y gefnogaeth a ddarperir gan Arthritis UK mewn ardaloedd lleol.
