Rhwydwaith Dementia Powys

Dechreuwyd Rhwydwaith Dementia Powys gan PAVO yn 2016 i ddarparu rhwydwaith Powys gyfan ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a sefydliadau statudol a thrydydd sector sy’n cynnig gwasanaethau a chymorth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael eich ychwanegu at restr e-bost Rhwydwaith Dementia Powys, cysylltwch â PAVO info(@)pavo.org.uk

Dementia_Network_header_picture_V2

Presenoldeb

Mae Tîm Iechyd a Lles PAVO yn hwyluso'r rhwydwaith hwn, gyda mewnbwn gan ddefnyddwyr gwasanaeth, sefydliadau trydydd sector a Grŵp Llywio Dementia Powys BIAP.

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb neu brofiad o fyw gyda dementia. Fel arfer mae cymysgedd o wasanaethau statudol a sefydliadau gwirfoddol, gyda chynrychiolaeth dda o blith y rhai sy'n byw gyda dementia neu'n gofalu am rywun.

Dyddiadau

Cynhelir Rhwydwaith Dementia Powys bob 6 mis, fel arfer ym mis Ionawr a mis Gorffennaf. Pwrpas y rhwydwaith yw galluogi llais y rhai sy’n byw gyda dementia gael eu clywed. Maen nhw a’u gofalwyr yn gallu siarad am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, er mwyn iddyn nhw allu dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch sut mae gwasanaethau’n cael eu darparu ym Mhowys. Mae'r rhwydweithiau hefyd yn galluogi sefydliadau i rannu arfer dda a rhoi gwybod i bobl am eu gwasanaethau.

Mae'r Rhwydwaith Dementia nesaf wedi'i gynllunio ar gyfer Haf '24

Bydd y rhai sydd ar y rhestr e-bost yn cael gwybod am y dyddiad aildrefnu.

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â PAVO ar info@pavo.org.uk

Dolenni Defnyddiol