Rhwydwaith Eiriolaeth Powys

Lansiwyd Rhwydwaith Eiriolaeth Powys gyda’r nod o hybu cydweithio agosach ar draws sefydliadau sydd â’r prif ddiben o ddarparu gwasanaeth eiriolaeth, neu sy’n darparu ystod o wasanaethau gan gynnwys eiriolaeth. Mae aelodau'r rhwydwaith yn darparu gwybodaeth, cyngor a diweddariadau ar yr hyn sy'n digwydd ym maes Eiriolaeth ar draws Powys, ar draws pob oedran.

csm_PAN_logo_2_8c3f3bc1ec

Aelodaeth

Mae’r rhwydwaith yn agored i unrhyw sefydliad trydydd sector sydd wedi’i leoli neu sy’n gweithredu ym Mhowys sy’n darparu gwasanaethau eiriolaeth gan gynnwys Eiriolaeth Iechyd Meddwl, Eiriolaeth Plant, Oedolion ac Oedolion Hŷn, gan gynnwys gwasanaethau eiriolaeth i bobl sy’n byw ag Anableddau Dysgu, Gofalwyr Di-dâl a Dementia.

I gael gwybod mwy cysylltwch â PAVO ar 01597 822191 neu info@pavo.org.uk

Cylch Gorchwyl

Cylch gorchwyl Rhwydwaith Eiriolaeth Powys 2023

Mapio Gwasanaethau Eiriolaeth ym Mhowys

Mae'r map gwasanaethau hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd.

Cofnodion a Phapurau

Gallwch ddarllen y nodiadau/cofnodion o’r cyfarfodydd blaenorol yma

Powys_Advocacy_Network_notes_14 12 23

Astudiaeth PA Cymru Rhagfyr 2023

Dolenni defnyddiol