Allech chi wirfoddoli fel Cyfaill ym Mhowys?

Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael i unigolion gofalgar sy’n gallu sbario rhyw awr bob wythnos i gefnogi ein cleientiaid, gan gynnwys:

  • Galwadau ffôn neu fideo
  • Cyfnewid llythyrau/e-byst
  • Ymweliadau wyneb yn wyneb
  • Mynychu gweithgareddau cymunedol neu grwpiau ar-lein
csm_PVS_Assembly_pic_673155d981

Helpwch ni i wneud gwahaniaeth heddiw.

Mae Gwasanaeth Cyfeillio Powys PAVO yn cefnogi pobl dros 50 oed sy’n byw ym Mhowys, i helpu i gynnal eu hannibyniaeth, magu hyder, datblygu eu rhwydweithiau cymdeithasol ac ailgysylltu â gweithgareddau yn y gymuned neu gyda phaned a sgwrs gyfeillgar yn eu cartref eu hunain.

Fel gwirfoddolwr fe allech chi…

  • Helpu i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol i berson hŷn
  • Gwella'ch hyder eich hun
  • Dysgu sgiliau newydd
  • Ymestyn eich rhwydwaith cymdeithasol

Darperir hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus.

Gellir ad-dalu costau gwirfoddoli perthnasol.

Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol i ddarganfod sut gallwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd person unig, hŷn.

Cysylltwch â Ni

Ffoniwch 01597 822 191 am sgwrs anffurfiol neu e-bostiwch pbs@pavo.org.uk