Cyfle i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau a chael hwyl! Gall unrhyw un 14 oed a throsodd wirfoddoli.
Croeso i Ganolfan Gwirfoddoli Powys!
Canolfan Gwirfoddoli Powys
Canolfan Gwirfoddoli Powys yw'r porth i wirfoddoli. Rydym yn gweithio gydag unigolion, sefydliadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a sefydliadau sector cyhoeddus i hyrwyddo gwaith gwirfoddol ac i gefnogi unigolion i ddod o hyd i leoliadau gwirfoddol sy'n addas i'w hanghenion.
Rydym yn dathlu a dweud diolch wrth wirfoddolwyr penigamp yn y Gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn Powys.
Hoffwch ni ar Facebook
Dilynwch ni ar Twitter
Dilynwch ni ar Instagram
Beth yw gwirfoddolwr?
Unigolyn sy’n cyflawni gweithgaredd er mwyn helpu pobl eraill (ar wahân i’ch teulu) yn ddi-dâl (er mae gwirfoddolwyr yn gallu hawlio costau teithio a threuliau cymeradwy eraill).
Mae gwirfoddolwyr yn gallu:
- Gyrru cerbydau cynlluniau cludiant cymunedol
- Rhedeg clybiau chwaraeon
- Rhedeg gweithgareddau chwarae ar gyfer plant
- Gwneud gwaith amgylcheddol yn yr awyr agored
- Helpu mewn siop elusennol
- Neu fod yn ymddiriedolwr sefydliad.
Mae rhestr o'r gweithgareddau’n ddiddiwedd. Gallwch wirfoddoli o’ch cartref, yn y gymuned neu dramor.
Eisiau gwirfoddoli?
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ond heb fod yn sicr beth yr hoffech ei wneud, gall y daflen wybodaeth hon helpu:
Dyma dair ffordd o gael hyd i’r cyfle gwirfoddol delfrydol:
- Cysylltwch â Chanolfan Gwirfoddoli Powys
- Cysylltwch ag un o'n partneriaid yn eich hardal leol
- Ewch i wefan Gwirfoddoli Cymru
1. Canolfan Gwirfoddoli Powys
Os oes angen unrhyw gefnogaeth ym maes gwirfoddoli CONTACT US
Dilynwch ni ar Facebook, Twitter ac Instagram am newyddion a chyfleoedd gwirfoddoli.
2. Partneriaid Cyflenwi Lleol PAVO i weld beth sydd ar gael yn lleol
Mae Biwros a chanolfannau Cymorth Gwirfoddol ar gael mewn trefi ar draws Powys - mae PAVO yn rhoi cyllid grant iddynt i hyrwyddo arfer da ac i recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr mewn ardaloedd lleol. Gweler isod manylion cyswllt yr un agosaf atoch chi:
Biwro Gwirfoddoli Aberhonddu
99 The Struet
Aberhonddu
Powys
LD3 7LS
Gaeaf - ar agor: Mawrth - Gwener 10yb-1yp
Haf: ar agor Llun – Gwener 10yb-1yp
01874 623136
vbxbrecon@gmail.com
fb.com/BreconVolunteer/
Hwb Cymunedol Taj Mahal
21 Stryd Penrallt
Machynlleth
Powys
SY20 5AG
07854 979710
tajmahalhub@gmail.com
www.camad.org.uk
Biwro Gwirfoddolwyr Crughywel
CRIC
Stryd Beaufort
Crughywel
Powys
NP8 1BN
Oriau agor: Llun - Gwener 9yb - 3yp
01873 812177
crickhowellvolunteerbureau@gmail.com
fb.com/Crickhowell-Volunteer-Bureau-200574966645685/
Canolfan Gymunedol Tref-y-clawdd
Bowling Green Lane
Tref-y-Clawdd
Powys
LD7 1DR
Dydd Llun a Dydd Gwener: 9yb - 1yp
Dydd Mawrth, Dydd Mercher and Dydd Iau: 9yb - 3yp
01547 428088
volunteerhubknighton@gmail.com
www.knightoncommunitycentre.com/volunteer-hub
Llandrindod a'r Ardal, Llanfair Ym Muallt a Sir Drefaldwyn
Canolfan Gwirfoddoli Powys
Uned 30, Heol-y-Ddol, Stad Ddiwydiannol
Llandrindod
Powys
LD1 6DF
Ar agor Llun - Iau 9yb - 5yp
Gwener 9yb - 4:30yp
01597 822 191
volunteering@pavo.org.uk
Ardal y Drenewydd
Ponthafren
Stryd y Bont-Hir
Y Drenewydd
Powys
SY16 2DY
Ar agor Llun - Iau 9yb - 5yh
Gwener 9yb - 4:30yp
01686 621586
mik.norman@pavo.org.uk
Biwro Gwirfoddolwyr Gogledd Maldwyn
Swyddfa Ystâd Oldford
Oldford Rise
Y Trallwng
Powys
SY21 7SX
Ar agor: Llun – Iau 9yb - 1.30yp
01938 554484
northmontgomeryshirevolcentre@outlook.com
https://nmvb.wales/
Cymorth Cymunedol Rhaeadr Gwy a’r Ardal
The Arches
Stryd y Gorllewin
Rhaeadr Gwy
Powys
LD6 5AB
Oriau Agor: Llun - Gwener 9yb-5yh
01597 810921
pippa@rdcs.org.uk
www.rhayader.co.uk/im-local/rhayader-community-support/volunteering
Biwro Gwirfoddolwyr Ystradgynlais
Hen Ffactri Remploy
Heol-y-Gwynt
Ystradgynlais
Abertawe
SA9 1AF
Ar agor: Llun - Gwener 9:30yb - 3:00yp
01639 849192
yvcvolunteering@gmail.com
www.ystradgynlaisvc.org.uk
3. Gwefan Gwirfoddoli Cymru
Gwelwch gannoedd o gyfleoedd gwirfoddol ym Mhowys https://powys.volunteering-wales.net/
Gwirfoddoli ar-lein
Ydych chi’n chwilio am gyfle gwirfoddoli hyblyg y gellir ei wneud o unrhyw le? Mae llwyth o ffyrdd i allu rhoi’ch amser trwy’r rhyngrwyd oddi cartref, neu unrhyw le arall - gallwch fynd ar-lein!
I chwilio am gyfleoedd gwirfoddol ar-lein gyda sefydliadau yng Nghymru, gallwch ddefnyddio’r opsiynau chwilio estynedig ar wefan Gwirfoddoli Cymru i chwilio am gyfleoedd a ‘Leolir Gartref’.
Wrth gwrs, gall gwirfoddoli ar-lein hefyd olygu y gallwch helpu sefydliadau ar draws y byd. Os hoffech wybod mwy am gyfleoedd rhyngwladol, ewch i wefan Gwirfoddoli Ar-lein y Cenhedloedd Unedig.
Medrwch hefyd ymuno â'r grŵp facebook Gwirfoddolwyr Ar-lein Powys i sgwrsio â gwirfoddolwyr eraill a chael gwybod am gyfleoedd.
Gwirfoddolwyr ifanc 14 – 25 oed
Mae 4,200 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol ym Mhowys, ac mae rhywbeth at ddant pawb, gan gynnwys y celfyddydau a drama; dawns a cherddoriaeth; iechyd a gofal cymdeithasol; siopau elusennol; chwaraeon amatur, yr amgylchedd a chadwraeth.
Hwyrach eich bod chi eisoes yn gwirfoddoli, er enghraifft, trwy godi arian ar gyfer Ffermwyr Ifainc, Plant mewn Angen neu Comic Relief; fel arweinydd ieuenctid gyda’r Sgowtiaid, y Geidiau neu’r Cadéts; neu drwy hyfforddi plant iau.
Mae llwyth o syniadau a lleoliadau gwirfoddol ar nifer o wefannau:
Gwirfoddoli Cymru - mae cannoedd o gyfleoedd ym Mhowys. Defnyddiwch eich cod post i ddysgu mwy. Hefyd gellir chwilio am gyfleoedd ar gyfer oedrannau penodol: https://powys.volunteering-wales.net/
Gwirfoddolwyr mewn Ysbytai
Hoffech chi wirfoddoli mewn ysbyty? Ydych chi'n chwaraewr tîm, gyda sgiliau cyfathrebu da a thosturi? Gallech fod yn wirfoddolwr cymorth ysbyty!
SWNIO'N DDIDDOROL?
Cysylltwch â’ch canolfan gwirfoddoli lleol neu gellir cofrestru ar-lein trwy.