Gwasanaeth Cyfeillio Powys

Cefnoga Gwasanaeth Cyfeillio Powys pobl dros 50 oed sy’n byw ym Mhowys i helpu i gadw eu hannibyniaeth, gwella hyder, datblygu eu rhwydwaith cymdeithasol ac ailgysylltu â gweithgareddau yn y gymuned neu gyda phaned a sgwrs gyfeillgar yn eu cartref eu hunain.Y gwasanaeth rydym yn ei gynnig

PBS Team Aug '25
Helen J and Befriender 5.4

Pa fuddion sydd i gael cyfaill?

  • Datblygu rhwydwaith cymdeithasol ehangach

  • Cysylltu â'r gymuned leol

  • Cynyddu gweithgarwch corfforol

  • Gwella iechyd meddwl a lles

Beth yw manteision cyfeillio?

Mae cyfeillion yn darparu:

  • Cwmni i bobl hŷn sy’n teimlo’n unig
  • Cefnogaeth i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol
  • Cyfleoedd i feithrin hyder a hunan-barch

Sut i Gael Cymorth

Gallwch gyfeirio’ch hun neu rywun arall at ein Tîm Llesiant Cymunedol. Byddan nhw’n adolygu’r wybodaeth a rennir gennych ac yn eich cysylltu â’r gwasanaeth mwyaf priodol.

  • Ffoniwch ni: 01597 828 649
  • Anfonwch e-bost atom: community.connectors@pavo.org.uk