Pam gwirfoddoli?
Gall gwirfoddoli helpu i:
- Fagu hyder a datblygu sgiliau newydd
- Gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau
- Ennill profiad i’w ychwanegu at dy CV
- Cefnogi achos neu gymuned sy’n bwysig i ti
- Cael hwyl a rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol
Gall hefyd roi digon o bethau i ti siarad amdanynt wrth wneud cais i goleg, brifysgol, am swydd neu am gyfleoedd eraill yn y dyfodol.
Clywch gan wirfoddolwr ifanc am ei brofiad fel Hwylusydd Ieuenctid, gan gynrychioli safbwyntiau pobl ifanc eraill a chwarae rhan weithredol mewn gwneud gwahaniaeth.
Gwirfoddoli a dy ddyfodol
Gallai’r amser rwyt ti’n ei dreulio wrth wirfoddoli hefyd gyfrif tuag at amrywiaeth o raglenni a gwobrau, gan gynnwys Bagloriaeth Cymru a Gwobr Dug Caeredin.
Yn ogystal â chael cydnabyddiaeth am dy amser a dy ymrwymiad, cei di gyfle i ddatblygu sgiliau defnyddiol ac ennill profiad go iawn ar hyd y ffordd.
Gwirfoddoli a dy Fagloriaeth Cymru
P’un rwyt i’n cefnogi elusen leol, yn helpu mewn digwyddiad, yn gweithio gyda phobl iau neu’n cymryd rhan mewn achos sy’n bwysig i ti, gall gwirfoddoli roi profiad gwerthfawr o fywyd go iawn i ti wrth weithio tuag at dy Fagloriaeth Cymru.
Gwirfoddolodd Verity gydag Arthritis UK i gwblhau 15 awr o waith gwirfoddol yn ei chymuned fel rhan o’i Bagloriaeth Cymru.
“I mi, mae gwirfoddoli yn ymwneud â rhoi o dy amser er budd eraill, heb ddisgwyl unrhyw beth yn ôl.”
Drwy wirfoddoli, magodd Verity fwy o hyder drwy arwain sesiynau cymorth a datblygodd fwy o empathi ar ôl gwrando ar bobl yn rhannu eu profiadau o fyw gydag arthritis a’r effaith maen nhw yn cael ar eu bywydau bob dydd.
Fe wnaeth y cyfle hefyd ei helpu i ddysgu mwy am arthritis a’r heriau sy’n wynebu pobl sy’n byw gyda’r cyflwr.
Roedd aelodau’r grŵp cymorth yn mwynhau cael person ifanc o’r gymuned i arwain y sesiynau. Fe wnaeth cyfraniad Verity eu helpu i deimlo’n fwy cysylltiedig â’u cymuned leol ac yn rhan ohoni.


Ennill profiad drwy wneud rhywbeth rwyt ti’n ei garu
Roedd Aaron Ponting yn gwybod ei fod eisiau gwirfoddoli yn yr awyr agored, a daeth o hyd i’r cyfle perffaith gyda Chynllun Wardeniaid Ieuenctid Bannau Brycheiniog.
Yn ddiweddarach, cafodd Aaron wahoddiad i ymuno â Phanel Grantiau dan Arweiniad Pobl Ifanc. Ar y dechrau, roedd yn ansicr ynghylch cymryd rhan, yn enwedig gan y byddai’n golygu gweithio gyda grŵp o bobl newydd. Ond penderfynodd roi cynnig arni – ac roedd yn falch iawn iddo wneud hynny.
Fe wnaeth gwirfoddoli helpu Aaron i fagu hyder, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a darganfod cyfleoedd na fyddai efallai wedi’u hystyried fel arall.
Barod i gymryd rhan?
Mae 'na sawl ffordd o wirfoddoli, beth bynnag fo dy ddiddordebau, dy brofiad neu faint o amser sydd gen ti i’w roi.
Dechreua archwilio cyfleoedd ar Wirfoddoli Cymru a dod o hyd i rywbeth sy’n addas i ti.
