Gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn Powys

Dathlu gwirfoddolwyr rhagorol ledled Powys a’r gwahaniaeth arbennig y maent wedi’u gwneud ym mywydau pobl!

MAE ENWEBIADAU NAWR AR AGOR AR GYFER GWOBRAU 2024!

Cynhaliwyd yr unfed ar ddegfed Gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn Powys ar y 23ain o Fawrth 2023, yn yr Elephant and Castle, Y Drenewydd. Mynychwyd y dathliad o wirfoddoli gan wirfoddolwyr a gwesteion o bob rhan o’r sir ac fe’i trefnwyd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) mewn partneriaeth â Tom Jones OBE, Uchel Siryf Powys. Diddanwyd y gwesteion gan sêr y West End, Steffan Harri a Rosie Jones.

Mae dathlu'n ffordd o ddangos y gwerth i waith y gwirfoddolwyr. Mae hefyd yn eu hannog i barhau i ysbrydoli eraill yn ogystal â chymryd rhan mewn cymdeithas lle mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan gynyddol a mwy angenrheidiol.

Cyflwynwyd y gwobrau gan Tom Jones OBE, Uchel Siryf Powys, i gydnabod cyfranogwyr unigol a grŵp o wirfoddolwr ym Mhowys.

PVOY_NEWS_PAGE_WEBSITE_resized

Dywedodd Clair Swales, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO):

“Mae Gwobrau Gwirfoddolwr y Flwyddyn Powys yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad anhygoel gwirfoddolwyr o bob rhan o Bowys. Dylai pawb a enwebwyd fod yn falch iawn o’u cyflawniadau a dymunaf ddiolch i bob gwirfoddolwr ar draws y Sir sy’n rhoi eu hamser  i gefnogi ystod o weithgareddau yn ein cymunedau. Gobeithiwn y bydd hyn yn ysbrydoli llawer mwy o bobl i wirfoddoli. Gall hyd yn oed awr neu ddwy yr wythnos wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.”