Cynllun Grant dan Arweiniad yr Ifanc

Mae grantiau bach hyd at £1,500 ar gael gan PAVO i redeg prosiectau sy’n darparu cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc 14-25 oed.

Cynllun grant dan arweiniad yr ifanc 2024-2025

Gall y bobl ifanc ddod o grŵp sy'n bodoli eisoes neu ddod at ei gilydd i arwain prosiect o'u dewis eu hunain. Rhaid i'r cais gael ei hysgrifennu gan berson ifanc.

Mae prosiectau yn y gorffennol wedi cynnwys trefnu digwyddiadau codi arian i gefnogi elusennau lleol, cynlluniau amgylcheddol lleol, a gwella cyfleusterau ar gyfer pobl hŷn. Gallai enghreifftiau o brosiectau yn y dyfodol gynnwys iechyd meddwl, gofalwyr ifanc, yr henoed, iechyd a lles, celf, sgiliau bywyd ac ati.

Dylai prosiectau fodloni o leiaf un o flaenoriaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015: https://www.futuregenerations.wales/wp-content/uploads/2017/01/160401-wfg-accessible-guide-for- young-people-cy.pdf

Rydym yn annog ceisiadau creadigol gan brosiectau sy'n ymgysylltu ag unigolion/cymunedau ac yn eu cefnogi

Bydd panel o bobl ifanc o Bowys yn asesu'r ceisiadau.
Y dyddiad cau yw:

Cysylltwch â ni i drafod eich syniadau prosiect ac i dderbyn ffurflen gais.

Cysylltwch â melissa.townsend(at)pavo.org.uk neu ffoniwch 01597 822191