Cynllun Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc 2026–2027
Mae PAVO yn cynnig grantiau o hyd at £500 i helpu pobl ifanc ym Mhowys i droi syniadau gwych yn gweithredu cymunedol.
Rydym yn chwilio am brosiectau sy'n cael eu cynllunio a'u harwain gan bobl ifanc 14–25 oed, ac sy'n creu cyfleoedd gwirfoddoli sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau lleol.
Rhaid gwario'r cyllid erbyn 31 Mawrth 2027.
Pa fathau o brosiectau y gallwn eu hariannu?
Dylai prosiectau gyfrannu at o leiaf un o Saith Nod Llesiant Cymru, megis creu cymunedau iachach, lleihau anghydraddoldebau, diogelu'r amgylchedd, neu gefnogi diwylliant a chymunedau lleol.
Mae prosiectau blaenorol wedi cynnwys codi arian ar gyfer elusennau lleol, gweithgareddau amgylcheddol, gerddi cymunedol, gwelliannau i fannau ar gyfer pobl hŷn, mentrau llesiant, cefnogi gofalwyr ifanc, a phrosiectau celfyddydau cymunedol.
Pwy ddylai lenwi'r cais?
Dylai'r cais gael ei gwblhau gan y bobl ifanc sy'n arwain y prosiect. Gall oedolion ddarparu cymorth os oes angen, ond dylai'r syniadau, y penderfyniadau a'r cais ddod gan y bobl ifanc sy'n cymryd rhan.
Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu gan banel o bobl ifanc o Bowys rhwng 14 a 25 oed.
Darllenwch y nodiadau canllaw cyn cwblhau eich cais.
Ni ellir ystyried ceisiadau a dderbynnir ar ôl 1:00yp ar 3 Medi 2026.
Nodiadau Canllaw
I fod yn gymwys, rhaid i'ch prosiect gael ei arwain gan bobl ifanc 14–25 oed, darparu cyfleoedd gwirfoddoli ym Mhowys, a bod o fudd i'r gymuned leol.
Rhaid i'ch grŵp:
- gynnwys o leiaf tri pherson ifanc sy'n ymwneud â chynllunio a chyflwyno'r prosiect
- gael oedolyn (18+) sy'n gyfrifol am oruchwylio'r prosiect
- fod yn sefydliad cyfansoddiadol gyda dogfen lywodraethu a chyfrif banc yn enw'r sefydliad, gyda dau lofnodwr anghysylltiedig neu fwy
- fod yn annibynnol ar sefydliadau'r llywodraeth a'r sectogyda dau lofnodwr cysylltiedig neu fwyr preifat
- gallu darparu cynrychiolaeth ieuenctid yn ystod y broses asesu, os bydd angen
- cyfrannu at o leiaf un o Saith Nod Llesiant Cymru
Meysydd Blaenoriaeth
Rhaid i bob prosiect gyfrannu at o leiaf un o Saith Nod Llesiant Cymru:
- Cymru Lewyrchus
- Cymru Gydnerth
- Cymru sy'n Fwy Cyfartal
- Cymru Iachach
- Cymru o Gymunedau Cydlynes
- Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
- Cymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang
Rhaid cwblhau pob prosiect a gwario'r holl gyllid erbyn 31 Mawrth 2027. Bydd yn rhaid dychwelyd unrhyw gyllid nad yw wedi'i wario erbyn y dyddiad hwn.
Cymorth Ychwanegol i Wirfoddolwyr Ifanc
Mae gennym gyllid ychwanegol ar gael i helpu i gael gwared ar rwystrau a allai atal pobl ifanc rhag gwirfoddoli. Gall hyn gynnwys cymorth gyda theithio, hygyrchedd, cyfathrebu, cyfrifoldebau gofalu, neu gostau rhesymol eraill sy'n gysylltiedig â chymryd rhan.
Rydym am i bawb gael y cyfle i gymryd rhan. Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch cais, os hoffech drafod syniad eich prosiect, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses, cysylltwch â Louise Hardwick drwy e-bost ar louise.hardwick@pavo.org.uk neu dros y ffôn ar 01597 822191.

