Chwilio am wybodaeth
Mae’r cynllun yn awyddus i gefnogi ceisiadau sy’n:
- Hygyrch i bob sefydliad trydydd sector sy'n darparu gweithgareddau iechyd a lles i'w cymunedau lleol.
- Gydweithredol yn eu hymagwedd, gan annog grwpiau i weithio gyda'i gilydd i gyflawni prosiectau, ac annog grwpiau i ymgysylltu â'u defnyddwyr i asesu'r hyn sydd ei hangen arnynt.
- Gynhwysol i bob grŵp o fewn cymunedau Powys - yn ddaearyddol ac yn gymunedau diddordeb.
- Arloesol eu natur, gan annog sefydliadau i feddwl yn wahanol a chyflawni mewn ffordd wahanol.
- Gynaliadwy wrth edrych ar yr effaith hirdymor, a defnyddio cyllid er budd gorau posibl sefydliadau a’r cyllidwyr.
Gall grwpiau wneud cais am hyd at galendr 3 blynedd ar gyfer cyllid cyfalaf a refeniw:
- Telir cyllid blwyddyn gyntaf ymlaen llaw, gyda chyllid blynyddoedd dilynol, yn dibynnu ar adrodd boddhaol, ar ddiwedd blwyddyn y grant.
- Bydd cyllid pob blwyddyn am flwyddyn galendr lawn e.e. Awst 2024 - Gorffennaf 2025
- Uchafswm y grant sydd ar gael yw £2,500 y flwyddyn.
Monitro buddiolwyr
Er mwyn monitro lles buddiolwyr ac effaith y cyllid, gofynnir i bob grŵp a ariennir gynnal arolwg gwaelodlin byr o fuddiolwyr gydag arolwg a ddarperir gan PAVO:
- Ar ddechrau'r prosiect
- Ar ddiwedd y flwyddyn / prosiect a ariennir
Cymhwysedd
Gall eich sefydliad wneud cais os yw’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd canlynol:
- Mae’n sefydliad trydydd sector/sector gwirfoddol (nid-er-elw) ac mae’n annibynnol ar y llywodraeth, y sector preifat a’r sector cyhoeddus.
- Elusen gofrestredig
- Grŵp cyfansoddiadol
- Cwmni Buddiant Cymunedol
- Sefydliad Corfforedig Elusennol
- Cwmni cyfyngedig trwy warant
- Bydd y cyllid ar gyfer gweithgareddau/gwasanaethau/cymunedau ym Mhowys
Mae gan eich sefydliad o leiaf 2 lofnodwr awdurdodedig nad ydynt yn perthyn
Ni allwch wneud cais os ydych yn:
- Sefydliad gwleidyddol
- Sefydliad statudol
- Sefydliad preifat
- Unigolyn
Rhaid i sefydliadau sy’n gwneud cais am y grant:
- Gael dogfen lywodraethol
- Gael cyfrif banc
- Dangos gallu i reoli grant
- Dangos bod ganddynt y polisïau a'r yswiriant perthnasol yn eu lle
- Mynd i'r afael ag un neu fwy o flaenoriaethau'r gronfa a chael tystiolaeth o'r angen
Mae cefnogaeth Swyddog Datblygu PAVO ar gael i unrhyw sefydliad sy'n dymuno cyflwyno cais. Argymhellir yn gryf eich bod yn cysylltu cyn cyflwyno cais.