Rhifedd 2

‘Mae ‘Rhifedd 2 - Gwneud Gwahaniaeth ym Mhowys’ yn gynllun grant PAVO sy’n gweinyddu £150,000 mewn ‘cyllid lluosog’. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a gefnogir gan Gyngor Sir Powys.

Gall Cynghorau Tref a Chymuned Powys a sefydliadau Trydydd Sector wneud cais i:

gyflwyno 1 i 3 o weithgareddau/digwyddiadau gwella rhifedd*
derbyn £500 am bob digwyddiad.
*Darparir cynlluniau gweithgaredd. Gellir eu haddasu.

Rhaid i ddigwyddiadau Rhifedd 2 wella hyder a sgiliau rhifedd sylfaenol pobl 19 oed a hŷn. Ceisiadau i’w derbyn ar unrhyw adeg cyn 30ain o Fedi 2024, i'w cyflwyno cyn 30ain o Dachwedd 2024.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Swyddog y Gronfa, Ruth Stafford, ar: ruth.stafford@pavo.org.uk neu 01686 806305
Ffurflen gais - Os yn argraffu
Ffurflen gais - 2. Ffurflen Gais Rhifedd 2, digwyddiadau £500 - Os yn llenwi'n electronig
7. 2ail Poster, Hysbyseb Rhifedd 2