Prosiect Cynnig Rhagweithiol PAVO

Ar y dudalen yma:

Beth yw'r Cynnig Rhagweithiol?
Beth yw Prosiect Y Cynnig Rhagweithiol?
Pa fath o gefnogaeth mae'r prosiect yn cynnig?
Y Pecyn Adnoddau
Ffurflen Ymgynghori'r Cynnig Rhagweithiol
Digwyddiad Lansio'r Prosiect Cynnig Rhagweithiol

AO_logo

Beth yw’r Cynnig Rhagweithiol?

Y Cynnig Rhagweithiol yw darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod ofyn amdano.

Y Prosiect Cynnig Rhagweithiol

Mae Lliwedd Jones, sef Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg PAVO wedi bod yn datblygu adnoddau i gefnogi mudiadau efo’r Cynnig Rhagweithiol. Trwy ymgynghoriad agos efo’r sector, creodd pecyn adnoddau i roi help llaw i fudiadau darparu mwy o wasanaethau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

AO_logo

Pa fath o gefnogaeth mae'r prosiect yn ei gynnig?

Mae swyddog y prosiect wedi bod yn darparu cymorth a chefnogaeth i fudiadau'r trydydd sector yn ogystal â chartrefi gofal ar draws Powys i ddarparu mwy o'u gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Trwy ymgynghoriad agos gyda'r sector, mae'r prosiect wedi gallu cefnogi mudiadau gyda:

- Drafftio Cynllun Gweithredu iaith Gymraeg

- Cynnwys y Cynnig Rhagweithiol mewn ceisiadau cyllid

- Cyfeirio mudiadau i arbenigwyr ar gyfer chefnogaeth iaith Gymraeg

- Cefnogaeth gyda marchnata dwyieithog a chyfryngau cymdeithasol

- Sesiynau ymwybyddiaeth ar y Cynnig Rhagweithiol

- Sesiynau dilynol ar y Cynnig Rhagweihtiol

- Canllawiau ar sut i ddefnyddio'r pecyn adnoddau a grëwyd i'r prosiect

- Cymorth arbenigol ar unrhyw ymholiadau sy'n gysylltiedig â'r iaith Gymraeg

Cliciwch yma i weld y Pecyn Cymorth Cynnig Rhagweithiol 

Ffurflen Ymgynghori'r Cynnig Rhagweithiol

Isod mae linc i'r Ffurflen Ymgynghori'r Cynnig Rhagweithiol.

Os gwelwch yn dda llenwch y ffurflen ymgynghori isod i ddangos eich ymroddiad i'r Cynnig Rhagweithiol. Bydd y swyddog mewn cysylltiad i gefnogi'ch mudiad gydag agwedd cam wrth gam i ddarparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod ofyn amdano.

https://bit.ly/CRhffurflen

Y Pecyn Deunyddiau ac Adnoddau Ychwanegol

Pecyn Gwybofaeth y Cynnig Rhagweithiol

Beth yw'r Cynnig Rhagweithiol? Darllenwch y pecyn hwn i weld lle allwch chi gychwyn.

Llyfryn Ymadroddion y Cynnig Rhagweithiol

Dysgwch rai ymadroddion Cymraeg defnyddiol a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â'r trydydd sector. Mae'r llyfr ymadroddion yn cynnwys y Cymraeg, seineg y Gymraeg, a'r cyfieithiad Saesneg.

Ble ydych chi nawr?

Dewch i adnabod gallu eich mudiad gyda'r Gymraeg gyda'r deunydd defnyddiol hwn.

Cardiau Fflach y Cynnig Rhagweithiol

Ymadroddion defnyddiol wrth ddarparu'ch gwasanaethau'n ddwyieithog. Rhowch gynnig ar ychydig dros y ffôn!

Ymadroddion Cymraeg i'ch Cyfryngau Cymdeithasol

Defnyddiwch mwy o'r Gymraeg yn eich newyddion diweddaraf i'r sector.

Mwy o Ymadroddion Cymraeg i'ch Cyfryngau Cymdeithasol

Defnyddiwch fwy o Cymraeg yn eich diweddariadau i'r sector!

Fideos Esboniadol y Cynnig Rhagweithiol

Manylwch ar sut y gallwch chi ddefnyddio'r pecynnau deunyddiau trwy wylio'r rhestr hon o fideos dwyieithog defnyddiol.