Uchafbwyntiau o CCB PAVO

Daeth aelodau, ymddiriedolwyr a staff ynghyd ar-lein y bore yma (4 Tachwedd 2026) ar gyfer ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB), a gadeiriwyd gan Gadeirydd Bwrdd PAVO, Gary Mitchell.

Roedd y cyfarfod yn cynnwys diweddariadau allweddol ar weithrediadau a chyllid, cyhoeddi mentrau newydd i aelodau, a ffarwelio’n gynnes ag ymddiriedolwyr sy’n gadael eu swyddi.

Adolygiad o’r Flwyddyn 2025–26

Cyflwynodd Clair Swales, Prif Weithredwr PAVO, yr Adolygiad o’r Flwyddyn 2025–26. Os na allech fynychu’r darllediad byw, gallwch wylio’r adolygiad yma (ar gael yn Saesneg yn unig):

 

Adroddiad Ariannol a Llywodraethu

Cyflwynodd Angela Owen, Pennaeth Gweithrediadau, Adroddiad yr Ymddiriedolwyr a’r Datganiadau Ariannol Archwiliedig ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2026.

O ran llywodraethu, cafodd Gary Mitchell a Myra Francis ill dau eu hail-ethol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Cymerodd y cyfarfod amser hefyd i gydnabod Wendy Beaven a Margaret Evitts, ymddiriedolwyr sy’n gadael eu swyddi; mynegodd Gary Mitchell ddiolch diffuant am eu gwasanaeth ymroddedig a’u cyfraniadau i PAVO.

Cyhoeddi Mentrau Newydd

Cyflwynwyd dau gyfle i gefnogi aelodau a’r sector cymunedol a gwirfoddol ym Mhowys:

  • Fforwm Llais a Dylanwadu: Gofod newydd sbon a grewyd yn benodol ar gyfer aelodau PAVO i gysylltu, rhannu mewnwelediadau, gwrando, a dylanwadu ar benderfyniadau yn y sector.
  • Cronfa Llawr Gwlad Ceiniogau Powys: Bydd grantiau prosiect bach o hyd at £1,000 ar gael i grwpiau lleol o ddydd Llun 9 Tachwedd ymlaen. Ariennir y cynllun hwn trwy gyfraniadau hael gan weithwyr PAVO a Chyngor Sir Powys, ynghyd â ffynonellau cyllido bach eraill.

Diolchwn yn fawr iawn i bawb a fynychodd ac a gyfrannodd at CCB eleni.