Gwerthusiad manwl am ddim ar gyfer rhaglenni gwirfoddoli
Ydych chi’n rhedeg rhaglen wirfoddoli yng Nghymru sy’n cefnogi canlyniadau iechyd, lles neu ofal cymdeithasol?
Mae Gwerthusiad Canlyniadau Gwirfoddoli Helplu Cymru yn gyfle peilot newydd i fudiadau’r sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn chwe mis o gymorth arbenigol am ddim gan Helplu er mwyn deall, mesur a dangos y gwahaniaeth y mae eu gwirfoddolwyr yn ei wneud yn well.
Mae ceisiadau’n agor ar 28 Medi 2026 ac yn cau ar 19 Hydref 2026.
PAM CYMRYD RHAN?
Erbyn diwedd y rhaglen, bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus:
- Ddealltwriaeth fwy eglur o’r gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud
- Tystiolaeth gadarn o’r effaith i’w rhannu gyda chyllidwyr, partneriaid a rhanddeiliaid
- Mewnwelediadau i helpu i gryfhau a datblygu eu rhaglen wirfoddoli
Dros chwe mis, bydd Helplu yn gweithio ochr yn ochr â chi i helpu i ddeall, dangos a chryfhau effaith eich rhaglen wirfoddoli.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn:
- Cymorth arbenigol am ddim gan arbenigwyr gwerthuso
- Adnoddau ymarferol i gasglu tystiolaeth ac adborth
- Dadansoddiad a mewnwelediadau i effaith gwirfoddolwyr
- Adroddiad sy’n crynhoi canfyddiadau’r gwerthusiad ac astudiaeth achos
- Tystiolaeth i gefnogi cynllunio, datblygiad gwasanaethau a cheisiadau am gyllid yn y dyfodol
- Cyfleoedd i ddysgu arferion da a’u rhannu
Mae’r cyfle hwn yn agored i fudiadau’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yng Nghymru y mae eu rhaglen wirfoddoli:
- Wedi bod yn gweithredu ers o leiaf 12 mis
- Yn cefnogi pobl 18 oed a hŷn
- Yn canolbwyntio ar wella canlyniadau iechyd, lles a/neu ofal cymdeithasol
- Yn dangos ymrwymiad i ddysgu a defnyddio tystiolaeth
- Fel arfer yn cynnwys o leiaf 20 o wirfoddolwyr gweithredol*
*Bwriad y gofyniad am wirfoddolwyr gweithredol yw sicrhau bod digon o weithgarwch i gynnal gwerthusiad ystyrlon. Gellir ystyried rhaglenni gydag ychydig yn llai o wirfoddolwyr gweithredol o hyd lle mae potensial cryf ar gyfer gwerthuso effaith. Anogir darpar ymgeiswyr yn gryf i fynychu sesiwn wybodaeth neu gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau. Darllenwch y canllawiau ymgeisio i weld y meini prawf cymhwysedd llawn cyn gwneud cais.
SESIYNAU GWYBODAETH
Bydd digwyddiad gwybodaeth yn cael ei gynnal ar-lein ar 12 Hydref 2026 rhwng 11.30am a 12.15pm. Cofrestrwch yma: https://luma.com/wlcohkyp
RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS
Am ragor o wybodaeth a chanllawiau ar ymgeisio, ewch i’n tudalen gwerthuso canlyniadau gwirfoddoli 2026. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag iechydagofal@wcva.cymru.
