Cymorth i Adeiladau Cymunedol

O neuaddau pentref bach i leoliadau mwy sy’n diwallu anghenion cymunedol penodol, mae adeiladau cymunedol o bob lliw a llun. Maent yn cynnwys clybiau chwaraeon, meysydd hamdden, llyfrgelloedd, eglwysi, amgueddfeydd, canolfannau teulu, clybiau ieuenctid, cytiau’r Sgowtiaid, theatrau a neuaddau cyngerdd, a thai elusennol. Beth bynnag fo’u maint neu eu pwrpas, mae’r mannau hyn yn aml wrth galon cymunedau lleol. Mae llawer ohonynt yn parhau i weithredu diolch i ymroddiad gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser i’w rhedeg, eu rheoli a’u cefnogi.

Os ydych chi’n aelod o bwyllgor neu’n ymddiriedolwr adeilad cymunedol, gallwn gynnig cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol i’ch helpu i deimlo’n hyderus yn eich rôl.

Rydym eisoes wedi helpu adeiladau cymunedol ledled Powys gyda:

  • Chytundebau llogi
  • Asesiadau risg
  • Pholisïau a gweithdrefnau
  • Hyfforddiant a datblygu
  • Grwpiau trafod rhithwir
  • Ymholiadau llywodraethu
  • Monitro ac arferion da
Community buildings CYM
Llyswen & Boughrood Hall

Y buddsoddiad mwyaf mewn seilwaith cymunedol ers bron i 20 mlynedd

Yn 2024/25, cafodd cymunedau Powys fudd o fuddsoddiad mwyaf y sir mewn seilwaith ar lawr gwlad ers bron i 20 mlynedd, gyda grant gwerth £1.65 miliwn – y mwyaf erioed – yn cael ei reoli gan PAVO rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2024.

Roedd y cyllid yn cefnogi gwelliannau i adeiladau cymunedol, toiledau cyhoeddus a chyfleusterau chwaraeon ledled Powys, gan ganolbwyntio ar wneud cyfleusterau lleol yn fwy cynaliadwy ac yn fwy effeithlon o ran ynni. Roedd y prosiectau’n cynnwys gosod paneli solar, atgyweirio toeau a mentrau trafnidiaeth gynaliadwy, gan helpu i sicrhau bod cyfleusterau cymunedol yn addas ar gyfer y dyfodol.

Darllenwch y sylw yn y wasg: Powys County Times  Brecon & Radnor Express Shropshire Star

Ymunwch â’n grŵp trafod ar-lein

Rydym yn cynnal grŵp trafod ar gyfer adeiladau cymunedol bob chwe wythnos drwy Google Meet.

Mae’n gyfle i rannu profiadau, gofyn cwestiynau, cyfnewid syniadau a dysgu gan eraill sy’n ymwneud â rhedeg adeiladau cymunedol.

Cofrestrwch i ymuno

Cael cymorth

P’un a oes gennych gwestiwn cyffredinol am reoli eich adeilad neu angen cyngor sy’n ymwneud â’ch rôl fel aelod o bwyllgor neu ymddiriedolwr, rydym yma i helpu.

Rydym hefyd yn cynnig cymorth gyda chyllid a gallwn eich helpu i chwilio am grantiau a chyfleoedd ariannu eraill.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Ffoniwch ni: 01597 822 191  Anfonwch e-bost atom: info@pavo.org.uk

 

Archwiliwch adeiladau cymunedol ledled Powys

Eisiau dod o hyd i adeilad cymunedol yn agos atoch chi?

Archwiliwch y map i ddarganfod adeiladau cymunedol ledled Powys. Symudwch eich cyrchwr dros unrhyw un o’r pinnau i weld mwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion am y lleoliad a phwy i gysylltu â nhw os hoffech wneud archeb.

Ydych chi’n rheoli adeilad cymunedol sydd wedi’i restru ar ein map? Os yw unrhyw un o’r wybodaeth yn eich rhestr wedi newid, defnyddiwch y ddolen hon i ddiweddaru eich manylion.