Uchel Siryf yn cynnal digwyddiad arbennig i ddiolch i wirfoddolwyr Powys

Cafodd gwirfoddolwyr o bob cwr o Bowys eu gwahodd i de prynhawn arbennig a gynhaliwyd gan William Watkins, Uchel Siryf Powys, yng Ngwesty’r Severn Arms ym Mhen-y-bont ddydd Iau 5 Mehefin, fel rhan o ddathliadau Wythnos y Gwirfoddolwyr.

Roedd y digwyddiad yn cydnabod ac yn diolch i wirfoddolwyr Gwasanaeth Cyfeillio Powys am y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth gefnogi pobl ledled Powys.

Mwynhaodd y gwesteion de prynhawn traddodiadol, cawsant gyfle i gyfarfod â gwirfoddolwyr eraill a rhannu eu profiadau. Roedd y dathliad yn bosibl diolch i gefnogaeth hael Radnor Hills.

Yn ystod y digwyddiad, cyflwynodd yr Uchel Siryf gardiau diolch a bathodynnau coffa i’r gwirfoddolwyr i gydnabod eu hymroddiad a’u gwasanaeth.

Dywedodd y gwirfoddolwraig Stella Constant: “Dw i wedi cael amser bendigedig gan gwrdd â gwirfoddolwyr eraill heddiw.

“Dw i’n gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Cyfeillio Powys ers pedair blynedd ac wedi cael y fraint o gefnogi chwech o bobl hyfryd sydd wedi byw bywydau hynod ddiddorol. Dw i’n cael cymaint allan o’r profiad ag y maen nhw.”

Mae Gwasanaeth Cyfeillio Powys, sy’n cael ei redeg gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) ac sy’n cael ei ariannu gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys, ar hyn o bryd yn cynnwys 73 o wirfoddolwyr sy’n cefnogi pobl 50 oed a throsodd sy’n profi unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol.

Drwy ymweliadau rheolaidd yn y cartref, galwadau ffôn a gweithgareddau grŵp, mae gwirfoddolwyr yn helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â’u cymunedau, magu hyder a datblygu cysylltiadau cymdeithasol.

Meddai William Watkins, Uchel Siryf Powys: “Roedd yn bleser croesawu gwirfoddolwyr o bob rhan o Bowys a diolch iddyn nhw am eu hymroddiad a’u gwasanaeth.

“Mae effaith gwirfoddoli yn aml yn llawer mwy nag y mae pobl yn ei sylweddoli. Trwy roi o’u hamser, mae’r gwirfoddolwyr hyn yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd a gwella llesiant. Mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy.”

Dywedodd Clair Swales, Prif Weithredwr PAVO: “Rydym yn hynod ddiolchgar i wirfoddolwyr ein Gwasanaeth Cyfeillio Powys ac roeddem wrth ein bodd yn dathlu eu cyfraniad yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr.

“Liciwn hefyd ddiolch i’r gwirfoddolwyr hynny nad oedden yn gallu bod yn bresennol heddiw, ac i Radnor Hills am eu cefnogaeth hael.”

Dywedodd Derek Emery, sy’n gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Cyfeillio Powys ers dwy flynedd: “Mae’r gwasanaeth yn creu cyfeillgarwch go iawn oherwydd bod gwirfoddolwyr yn cael eu paru’n ofalus â phobl sy’n rhannu diddordebau tebyg.

“Mae’r person rwy’n ei gefnogi yn gwenu llawer mwy nag roedd o’n arfer gwneud.”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda Gwasanaeth Cyfeillio Powys gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i pavo.org.uk/cy/gwirfoddoli.