Wythnos Gwirfoddolwyr 2026: Dathlu gwirfoddolwyr ledled y DU

Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn dychwelyd eleni am ei 42ain pen-blwydd, gan redeg o ddydd Llun 1 i ddydd Sul 7 Mehefin 2026.

Mae’r wythnos, sydd wedi’i chynnal bob blwyddyn ers 1984, yn gyfle hanfodol i ddiolch i wirfoddolwyr a chydnabod gwerth eu hamser, eu brwdfrydedd a’u sgiliau. Mae’r ymgyrch yn amlygu amrywiaeth ac undod gwaith gwirfoddolwyr ledled y DU.Nod y dathliadau yw meithrin cysylltiadau rhwng mudiadau cenedlaethol a grwpiau llawr gwlad, a dathlu ysbryd gwirfoddoli sy’n cyfoethogi cymunedau bob blwyddyn.

Chwilio am ffyrdd i ddangos eich gwerthfawrogiad? Dyma ychydig o syniadau:

  • Ysgrifennwch gardiau diolch â llaw
  • Ymunwch â The Big Do a chynhaliwch ddigwyddiad 
  • Rhowch dystysgrifau gwerthfawrogiad
  •  Enwebwch eich gwirfoddolwyr ar gyfer Gwobrau Elusen Cymreig
  • Rhannwch straeon sy’n dangos y gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud

Caiff yr Wythnos Gwirfoddolwyr ei harwain gan Fforwm Gwirfoddoli’r DU, mewn partneriaeth â Volunteer Scotland, Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO), Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Volunteer Now yng Ngogledd Iwerddon.

Dywedodd Fforwm Gwirfoddoli’r DU: “Mae gwirfoddolwyr yn cyfoethogi mudiadau ar hyd a lled y wlad. Yr Wythnos Gwirfoddolwyr yw’r amser perffaith i gydnabod amrywiaeth ein gwirfoddolwyr a dathlu’r gwahaniaeth y mae gwirfoddoli yn ei wneud.

“Heb wirfoddolwyr, ni allai llawer o elusennau weithredu, gyda chymaint o bobl yn rhoi o’u hamser a mynd yr ail filltir. Mae’r wythnos yn gyfle i ni i gyd ddangos pa mor hanfodol y maen nhw i elusennau a chymunedau ym mhobman.”