Mae Ton 3 Baromedr Cymru yn fyw: dyddiad cau wedi’i ymestyn tan 29 Mai.
Mae Ton 3 Baromedr Cymru yn fyw: dyddiad cau wedi’i ymestyn tan 29 Mai.
https://nbsntu.eu.qualtrics.com/jfe/form/SV_8Aqi7io1jUWX7mu
Rhannwch yn eang os gwelwch yn dda!
Baromedr Cymru yw’r arolwg chwarterol dwyieithog ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru, wedi’i gyflwyno gan CGGC ac Arsyllfa Data a Mewnwelediadau’r VCSE ym Mhrifysgol Nottingham Trent.
Mewn Ffocws: Perthnasoedd â’r llywodraeth a’r cyd-destun gwleidyddol newidiol yng Nghymru
Yn Nhon 3, rydym am ddeall perthnasoedd mudiadau â gwahanol lefelau llywodraeth yng Nghymru. Rydym eisiau gwybod eich barn, eich profiadau, eich blaenoriaethau, eich disgwyliadau a’ch pryderon ar gyfer y 12 mis nesaf, gyda phwyslais penodol ar etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026.
Rydym hefyd yn creu llinell sylfaen ailadroddadwy i asesu dros amser a yw mudiadau gwirfoddol o’r farn bod gwahanol lefelau llywodraeth yn ymddwyn mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu egwyddorion y Cyfamod Cymdeithas Sifil newydd.
- Eich perthynas â llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, cyrff rhanbarthol, ac awdurdodau lleol yn ymarferol.
- I ba raddau y mae’r perthnasoedd hyn yn adlewyrchu egwyddorion y Cyfamod.
- Blaenoriaethau, disgwyliadau a phryderon eich mudiad ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Pam mae eich mewnbwn yn bwysig
Bydd eich cyfraniad chi yn helpu i greu darlun mwy eglur o sut mae’r sector yng Nghymru yn perfformio, gan lywio trafodaethau cenedlaethol ar gyllid, buddsoddiad a chefnogaeth i fudiadau gwirfoddol o bob maint.
Os byddwch chi’n cymryd rhan, byddwch chi’n cael:
- Adroddiad Cipolwg byr i’ch helpu chi i ddeall eich profiad o’i gymharu â’r darlun ehangach
- Mynediad at ddangosfwrdd dwyieithog sy’n eich helpu i wneud synnwyr o’r canfyddiadau
- Gwahoddiad i weminar am ddim a fydd yn edrych ar y canfyddiadau a’r goblygiadau ymarferol
Mae Pob Ateb yn Cyfri
Waeth a yw eich mudiad yn fawr neu’n fach, bydd eich llais yn helpu i adeiladu dyfodol cryfach i’r sector gwirfoddol yng Nghymru sy’n canolbwyntio mwy ar dystiolaeth.
Cyflwynwch eich atebion erbyn dydd Gwener 29 Mai i sicrhau bod llais eich mudiad yn cael ei glywed.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yn VCSEOObservatory@ntu.ac.uk neu polisi@wcva.cymru
