
Rheoli Gwirfoddolwyr
Chwefror 25 @ 1:30 pm - 3:30 pm

Mae’r cwrs hwn yn archwilio sut i ddylunio a chreu cyfleoedd gwirfoddoli ystyrlon, rhoi arferion diogel ar waith, a recriwtio, cefnogi ac ymgysylltu â gwirfoddolwyr er mwyn sicrhau effaith barhaol.
Canlyniadau dysgu:
Datblygu’r sgiliau i gynllunio a dylunio cyfleoedd gwirfoddoli ystyrlon
Deall sut i roi arferion gwirfoddoli cryf a diogel ar waith
Dysgu sut i recriwtio, croesawu a chefnogi gwirfoddolwyr yn effeithiol
Meithrin hyder mewn cyfathrebu ac ymgysylltu â gwirfoddolwyr er mwyn sicrhau cyfranogiad parhaus
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer sefydliadau sy’n newydd i wirfoddoli neu sy’n awyddus i gryfhau eu harferion presennol.
I archebu, ewch yma os gwelwch yn dda: FFURFLEN ARCHEBU
Mae’r cwrs hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Powys.



