Yn Cyflwyno Ein Presgripsiynwyr Cymdeithasol Newydd

Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno ein Presgripsiynwyr Cymdeithasol newydd:

  • Ceri Williams – Gogledd Powys
  • Lynda Rogers – Canololbarth Powys
  • Helen Quinlan – De Powys

Mae ein Presgripsiynwyr Cymdeithasol yn cynnig cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar y person, gan helpu pobl i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig iddynt a gwneud newidiadau parhaol er mwyn gwell iechyd a lles.

Dysgwch fwy ar ein tudalen we Presgripsiynu Cymdeithasol

Dull Mwy Cydgysylltiedig o Edrych ar Les Cymunedol

Mae’n Tîm Lles Cymunedol wedi cael ei ailfodelu’n ddiweddar i ddarparu gwasanaeth mwy cydlynol i bobl ledled Powys.

Beth Sydd Wedi Newid

Yn flaenorol, darparwyd cefnogaeth gan ddau wasanaeth ar wahân – Gwasanaeth Cyfeillio Powys a’r Cysylltwyr Cymunedol.

Nawr, mae’r gwasanaethau hyn wedi dod at ei gilydd – ynghyd â’n Presgripsiynwyr Cymdeithasol – i ffurfio un Tîm Lles Cymunedol integredig.

Sut Mae’r Tîm Newydd yn Gweithio

Mae’r tîm newydd yn gweithio’n rhanbarthol yng Ngogledd, Canolbarth a De Powys, gan ei gwneud hi’n haws i bobl ddod o hyd i’r gefnogaeth gywir yn gyflym ac yn hawdd – Tîm Lles Cymunedol

Rydym hefyd wedi cyflwyno un porth atgyfeirio ar gyfer pob ymholiad, gan gysylltu pobl â’r gwasanaeth mwyaf addas a gwneud mynediad at gefnogaeth yn llyfnach nag erioed.

Mae’r dull newydd hwn yn rhoi ffocws cryfach ar bresgripsiynu cymdeithasol, yn unol â’r Model Cymdeithasol ar gyfer Iechyd a Llesiant.