Cronfa Datblygu Fforwm Gwerth Cymdeithasol 2026–27 Nawr ar Agor!

Nod y Gronfa Datblygu Gwerth Cymdeithasol yw ariannu gwasanaethau a gweithgareddau ataliol newydd, neu ymestyn gwasanaethau presennol yn glir, o fewn y sector gwerth cymdeithasol, sy’n llenwi ac yn pontio bylchau yn y ddarpariaeth bresennol i wella lles meddyliol a chorfforol, helpu unigolion i fyw bywyd annibynnol ac yn anelu at leihau’r angen am ymyrraeth lefel uwch, gan sicrhau cydnawsedd â Strategaeth Iechyd a Gofal Powys.
Mae’r cyllid wedi’i ddarparu gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys drwy’r Fforwm Gwerth Cymdeithasol.
Cyfanswm gwerth y gronfa: £130,000
- Dim ond 1 cais y caiff pob sefydliad ei gyflwyno.
- Rhaid i geisiadau am £25,000 neu fwy gyd-fynd ag o leiaf 2 flaenoriaeth y gronfa.
- Mae’r gronfa ar gael ar gyfer costau refeniw yn unig.
Dyddiadau allweddol:
- Agor y ffenestr geisiadau: 14 Hydref 2025
- Dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau wedi’u cwblhau: 1pm, Dydd Llun 1 Rhagfyr 2025
Mae’r gronfa’n darparu cyllid cychwynnol ar gyfer gwasanaeth neu weithgaredd newydd neu estynedig; felly, rhaid i geisiadau ddangos yn glir sut y bydd y gwasanaeth/gweithgaredd yn parhau ar ôl 31 Mawrth 2027.
Bydd pob ymgeisydd, llwyddiannus neu beidio, yn cael cyfle i dderbyn cymorth gan Swyddog Datblygu PAVO.
Bydd penderfyniadau ariannu’n cael eu gwneud gan banel grantiau amlasiantaethol, yn seiliedig ar y defnydd mwyaf effeithiol o’r adnoddau sydd ar gael a safon y ceisiadau a gyflwynir.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn arian cyhoeddus ac, fel rhan o’r trefniant hwn, rhaid iddynt gydweithio â Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg PAVO i edrych ar y ‘Cynnig Gweithredol’ – sef integreiddio’r Gymraeg yn eu gweithgareddau yn unol â Mesur yr Iaith Gymraeg 2011.
Blaenoriaethau’r Gronfa
- Teithio ar gyfer llesiant
- Gwella lles cymunedol a chysylltiadau cymunedol
- Galluogi plant a phobl ifanc i ffynnu mewn cymunedau gwledig
Mae cymorth ar gael gan swyddog datblygu’r gronfa i’ch helpu i nodi sut y gall eich prosiect fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn.
Meini prawf cymhwysedd
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyllid, rhaid i’ch sefydliad gael ei gategoreiddio fel un o’r sefydliadau/grwpiau sector gwerth cymdeithasol fel y’u diffinnir yn adran 16 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, hynny yw:
Mentrau Cymdeithasol, cydweithfeydd, gwasanaethau dan arweiniad defnyddwyr a’r trydydd sector, gyda chyfansoddiad/rheolau ac acynt banc.
Os nad ydych yn sefydliad cyfansoddedig, mae’n annhebygol y byddwch yn gallu gwneud cais am gyllid, ond cysylltwch â swyddog y gronfa i drafod opsiynau, gan y gallai fod modd eich helpu i ddod o hyd i sefydliad lleol arall i weithio gydag ef i gyflwyno cais.
Manylion prosiectau
- Rhaid i bob prosiect fod wedi’i leoli ym Mhowys.
- Os oes gan brosiectau fuddiolwyr y tu allan i’r sir, dim ond cymhareb fach o’r bobl sy’n elwa a ganiateir.
- Rhaid i brosiectau gyfrannu at Strategaeth Iechyd a Gofal Powys – gellir gweld manylion yma.
- Rhaid i brosiectau fod yn weithgaredd newydd (nad yw’n cael ei ddyblygu yn eich ardal elwa) neu’n ymestyniad clir o weithgaredd presennol.
- Ni ellir defnyddio’r gronfa ar gyfer cyllid parhad.
Diffiniad o “ymestyniad clir”: rhaid dangos nad yw’r gweithgaredd rydych chi neu sefydliad arall yn ei gynnig ar hyn o bryd ar gael i fuddiolwyr eich prosiect arfaethedig.
E.e. os ydych ar hyn o bryd yn darparu caffi ieuenctid yn Y Drenewydd, ni fydd cynnig noson ychwanegol yn bodloni’r meini prawf hyn; ond byddai cynnig caffi ieuenctid ychwanegol mewn ardal wahanol yn gwneud hynny.
Cliciwch ar y ddolen hon i gofrestru eich diddordeb:
➡️ Ffurflen Gwirio Cymhwysedd a Chais am Gyswllt