Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn cyflwyno bron i £7,000 i brosiectau cymunedol lleol ac yn lansio ail rownd Cronfa Grant Cymunedol Rheilffordd 200

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian wedi cyflwyno bron i £7,000 i fudiadau cymunedol ar hyd Lein y Cambrian fel rhan o Gronfa Grant Cymunedol Rheilffordd 200, gan gefnogi prosiectau sy’n dathlu treftadaeth, creadigrwydd a theithio cynaliadwy.

Mae pob math o fentrau dychmygus o dan arweiniad y gymuned wedi derbyn grantiau, gan gynnwys:

  • Gardd gynaliadwy ar thema trenau sy’n anrhydeddu gwaith a gerddi hen Orsaf-feistri.
  • Cynhyrchu a sgrinio ffilm am Syr Pryce Pryce-Jones, yr entrepreneur arloesol, a fydd yn rhan o arddangosfa bwysig.
  • Cyfres o deithiau tywys Cymraeg ar hyd Arfordir y Cambrian, sy’n defnyddio’r rheilffyrdd fel dull teithio cynaliadwy i gyrraedd a gadael y teithiau.

Mae’r prosiectau hyn yn dangos sut mae cymunedau ar hyd Lein y Cambrian yn dod â phobl at ei gilydd, gan ddathlu treftadaeth a hyrwyddo’r rheilffyrdd fel cysylltiad cynaliadwy ar hyd Canolbarth Cymru a’r Arfordir.

Dywedodd Neil Scott, Cadeirydd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian: “Rydyn ni wrth ei bodd i gefnogi nifer o brosiectau ysbrydoledig a chyffrous wrth i ni ddathlu 200 mlynedd o deithio ar y rheilffyrdd. Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru, wedi galluogi grwpiau cymunedol ar hyd Lein y Cambrian i ystyried y cysylltiad rhwng eu

cymunedau a’r rheilffyrdd. Mae Rheilffordd 200 yn rhoi cyfle i bawb ddathlu geni rheilffyrdd modern ac rydyn ni’n falch iawn o gefnogi grwpiau a’u prosiectau.”

Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru: “Eleni rydyn ni’n dathlu 200 mlwyddiant rheilffyrdd modern ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd. Bydd y grant hwn yn cysylltu cymunedau â’u rheilffyrdd gan ddod â ffrindiau, teuluoedd a chymunedau at ei gilydd wrth gyflwyno amrywiaeth eang o brosiectau a mentrau gyda’i

gilydd.”

Dywedodd Clair Swales, Prif Swyddog Gweithredol PAVO: “Rydyn ni’n falch iawn o gyflwyno’r cynllun grant hwn gyda Phartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld effaith y cyllid hwn ar hyd y lein.”

Dywedodd Deb Justice, Swyddog Datblygu Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weld yr amrywiaeth eang o brosiectau sy’n cael eu cefnogi gan ein Grant Rheilffordd 200. Mae’n galonogol iawn bod y mentrau hyn i’w gweld mewn cymunedau ar hyd Prif Lein y Cambrian a Lein yr Arfordir.”

Mae’r Bartneriaeth hefyd yn falch iawn o gyhoeddi bod ail rownd Grant Cymunedol Rheilffordd 200 bellach ar agor.

Gwahoddir ceisiadau gan sefydliadau cymunedol, elusennau a chwmnïau budd cymunedol (CICs), sydd o fewn chwe milltir i orsaf reilffordd ar Lein y Cambrian, am grantiau sy’n dathlu hanes y rheilffyrdd ac yn cyfrannu at ddatblygiad cymunedol. Y dyddiad cau yw 10am fore Llun 13 Hydref 2025 – nid yw ymgeiswyr sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol yn

gymwys i ymgeisio am y rownd hwn.

Gweinyddir Cronfa’r Grant gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) ac mae’n cael ei darparu mewn partneriaeth â Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion, Mantell Gwynedd, Community Resource Shropshire a PAVO. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi darparu 50% o’r arian tuag at gyfanswm y grant drwy ei Gronfa Her ac fel rhan o’i ymrwymiad i

reilffyrdd cymunedol.

Os hoffech drafod syniadau eich prosiect, cysylltwch â deb.justice@pavo.org.uk neu ewch https://www.pavo.org.uk/cy/help-for-organisations/funding/pavo-grant-schemes/cynllun-grant-200-partneriaeth-rheilffyrdd-y-cambrian/